BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 28 Awst 2008, 08:06 GMT 09:06 UK
Gogledd: Prawf yn 'fwy anodd'

Dysgu gyrru
Mae'r gyfradd llwyddo yng Nghymru yn 49% - 5% yn uwch nag yn Lloegr

Mae Aelod cynulliad wedi gofyn i'r Asiantaeth Safonau Gyrru pam ei bod "yn fwy anodd" i basio profion gyrru yn y gogledd.

Dywedodd Chris Franks, aelod Plaid Cymru yng Nghanol De Cymru, fod ystadegau'r asiantaeth yn awgrymu bod y canlyniadau'n amrywio'n "fawr" o aradal i ardal.

Tra bod 35% yn llwyddo yn y Rhyl, Sir Ddinbych, mae 63% yn llwyddo yn Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion.

Yn ôl yr asiantaeth, mae ffactorau cymdeithasol ac economaidd yn effeithio ar y canlyniadau.

Mae'r gyfradd llwyddo yng Nghymru yn 49%, 5% yn uwch nag yn Lloegr.

Dyma'r cyfraddau llwyddo yng Nghymru yn 2007-8:

Aberystwyth 50%
Y Bala 37.9%
Bangor 45.8%
Y Barri 46.6%
Caerdydd 53%
Aberteifi 58%
Bae Colwyn 39%
Caergybi 50.8%
Llandrindod 68.8%
Merthyr 53%
Yr Wyddgrug 38.64%
Pontypridd 50.85%
Pwllheli 54.28%
Rhyl 35%

Dywedodd Mr Franks: "Mae'n ymddangos yn fwy anodd i basio prawf gyrru yn y gogledd ... nag mewn rhannau o orllewin Cymru.

"Dwi'n siwr bod dysgwyr yn disgwyl cael eu trin yn gyfartal pa le bynnag y maen nhw'n cymryd eu prawf."

Dywedodd llefarydd ar ran yr asiantaeth: "Y mwya cyfoethog y mae ardal, y mwyaf y mae pobl yn debygol o fuddsoddi mewn gwersi ac mae mwy o gyfleoedd i ymarfer mewn ceir teuluol ac ati.

"Byddai'n annhebygol pe bai pob canolfan prawf yn cael yr un gyfradd llwyddo."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^