Agorodd David Evans yn Abertawe yn 1865 a chau yn 2005
|
Fe fydd misoedd o oedi cyn agor canolfan siopa gwerth £30 miliwn sy i fod i "weddnewid" canol dinas.
Y rhesymau yw tywydd gwael a chloddio archeolegol.
Ar safle hen siop David Evans ar Ffordd y Dywysoges mae'r ganolfan yn cael ei chodi lle bydd adeilad tri-llawr o wydr a dur yn cynnwys siopau ffasiwn.
Fe allai'r cynllun olygu cannoedd o swyddi.
Yn wreiddiol, roedd y ganolfan i fod yn barod erbyn yr hydref ond y dyddiad cau newydd yw diwedd y flwyddyn.
David Evans oedd y siop fawr hyna yn y ddinas pan gaeodd ei drysau yn 2005 a chafodd ei chwalu yn 2007.
Bydd y ganolfan newydd y mae'r datblygwyr Thurleigh Estates yn ei chodi yn cynnwys siopau ffasiwn Zara, siop dillad dynion Slater ac yno y bydd siop fawr J T Morgan.
'Ofnadwy'
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Mae nifer o resymau am yr oedi, gan gynnwys y cloddio archeolegol ar y safle a'r tywydd ofnadwy ers ychydig o fisoedd."
Mae arweinydd y cyngor, Chris Holley, wedi dweud: "Erbyn hyn, mae'r adeiladu bron â chyrraedd y cyfnod ola ac fe fydd siopwyr yn rhyfeddu at fanteision y ganolfan newydd."
Agorodd David Evans yn Abertawe yn 1865 ac wedyn fe ddaeth yn rhan o House of Fraser.
Cafodd cerfluniau y tu allan i'r adeilad oedd yn darlunio ffasiwn ar hyd yr oesoedd eu symud a'u rhoi yn Amgueddfa Abertawe.