BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 27 Awst 2008, 06:07 GMT 07:07 UK
Uned ddamweiniau: Trafod

Ysbyty Singleton
Uned ddamweiniau: Ddim yn delio ag achosion difrifol

Fe fydd cynigion bod meddygon teulu'n rhedeg uned ddamweiniau yn cael eu trafod ym mis Medi.

Eisoes mae rheolwyr a meddygon wedi dweud nad yw'r gwasanaeth i gleifion yn uned ddamweiniau Ysbyty Singleton yn Abertawe yn "ddiogel nac yn gynaliadwy".

Ym mis Gorffennaf fe gaeodd yr uned 29 o weithiau oherwydd nad oedd meddyg ar gael.

Dywedodd Ymddiriedolaeth Iechyd Abertawe Bro Morgannwg y byddai'r cynigion yn costio £500,000 yn ychwanegol bob blwyddyn.

Mae'r cynigion yn golygu y bydd rhai staff yn symud i uned ddamweiniau Ysbyty Treforys ac y bydd uned frys bediatrig yn yr ysbyty hwnnw.

Dywedodd prif weithredwr cynorthwyol yr ymddiriedolaeth, Calum Campbell, eu bod nhw wedi trafod â'r bwrdd iechyd lleol.

"... rydyn ni gant y cant o blaid y gwasanaeth yn Singleton ac rwy wedi dweud hyn mewn sawl cyfarfod.

"Ond mae'n amlwg nad yw'r gwasanaeth presennol yn "ddiogel nac yn gynaliadwy.

'Effeithiol'

"Yn aml, does dim dewis ond cau'r uned ac nid oes modd i'r sefyllfa hon barhau.

"Un dewis yw cydweithio â meddygon teulu er mwyn rhoi gwasanaeth diogel ac effeithiol ..."

Dywedodd y meddyg ymgynghorol, Andy MacNab, fod recriwtio meddygon i unedau bach yn broblem gyffredinol.

"Mae'r uned wedi bod yn dibynnu'n fwy ar staff dros dro ...

"Dyw cau bob hyn a hyn ddim er lles y cleifion."




Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^