BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 20 Awst 2008, 14:16 GMT 15:16 UK
Chwareli: Colli hyd at 50 o swyddi

Chwarel cwt y Bugail, Blaenau Ffestiniog
Mae'r cwmni'n cyflogi 285 o weithwyr yn y gogledd

Fe fydd hyd at 50 o bobl yn colli eu gwaith mewn dwy chwarel yng Ngwynedd oherwydd problemau yn y diwydiant adeiladu.

Dywedodd cwmni Welsh Slate, sy'n berchen ar y chwareli ym Methesda a Ffestiniog, eu bod yn gobeithio na fydd yna ddiswyddiadau gorfodol.

Maen nhw'n cyflogi 285 o weithwyr yn y gogledd.

Dywedodd y cwmni eu bod yn gobeithio y byddai'r rhan fwyaf o weithwyr yn dod o hyd i waith arall neu'n ymddeol yn gynnar.

"Mae'r problemau economaidd bydeang wedi effeithio ar y diwydiant adeiladu a rhaid i ni ymateb i'r sefyllfa er mwy diogelu dyfodol Welsh Slate a dyfodol gweddill y gweithwyr," meddai'r rheolwr gyfarwyddwr Alan Smith.

"Mi fyddwn ni'n gwneud popeth posib i sicrhau y bydd y diswyddiadau'n wirfoddol ac yn cynnig help i'r staff yn ystod y cyfnod anodd hwn."

Roedd Welsh Slate wedi prynu'r chwareli am 31 miliwn oddi wrth gwmni Alfred McAlpine ym mis Rhagfyr.

Yn y cyfamser, mae cwmni JCB wedi dweud y bydd 61 nid 50 yn colli swyddi yn eu ffatri yn Wrecsam.

Y rheswm yw llai o archebion a dywedodd y cwmni y byddai 650 o swyddi'n diflannu yng ngwledydd Prydain.

Ers blwyddyn mae 56 o swyddi wedi diflannu yn ffatri Wrecsam.

"Rydyn ni'n dal i ymgynghori," meddai llefarydd ar ran y cwmni. "Ar hyn o bryd rydyn ni'n asesu faint sy wedi gwneud cais am ddiswyddo gwirfoddol."



HEFYD
Gwerthu chwareli am 31m
24 Rhag 07 |  Newyddion
Llechi: Gofyn i'r heddlu
23 Ebr 07 |  Newyddion
Trafod dyfodol swyddi llechi
16 Ebr 07 |  Newyddion
Swyddi llechi: 'Rhy hwyr'
19 Maw 07 |  Newyddion
Chwarel: 38 yn colli gwaith
28 Chwef 07 |  Newyddion
Chwarel: Cyfarfod undebwyr
28 Chwef 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^