Priododd Ben a Catherine ar Orffennaf 12
|
Mae tri o bobl sydd yn y ddalfa yn Antigua yn cael eu holi mewn cysylltiad â llofruddiaeth cwpl o dde Cymru.
Cafodd Ben a Catherine Mullany o Bontardawe eu saethu yn eu hystafell mewn gwesty ar ddiwrnod olaf eu mis mêl ym mis Gorffennaf.
Cafodd y ddynes a dau ddyn eu holi ar ôl i ddyn arall ei ryddhau.
Dywedodd yr heddlu bod eu hymholiadau yn parhau ac y byddan nhw'n cysylltu gyda chyfarwyddwr gwasanaeth erlyniadau cyhoeddus unwaith bod y gwaith ar ben i gael ei gyngor.
Cafodd y drydedd ddynes ei holi ar ôl i ddynes 32 oed a dynes 22 oed gael eu harestio'r wythnos diwethaf ac maen nhw'n dal yn y ddalfa.
Cyffuriau
Mae'n bosib y bydd 'na benderfyniad ar gyhuddiadau yn cael eu gwneud ddydd Llun neu yn ddiweddarach yn yr wythnos.
Mae'r heddlu wedi gwrthod gwneud sylw ar y ffaith eu bod sicr y gallai un o'r pump sydd o dan amheuaeth gael eu cyhuddo o lofruddiaeth.
Mewn datganiad dywedodd yr heddlu bod y bobl yma wedi cael eu harestio ar ôl ymgyrch positif.
Ychwanegodd bod amryw o'r rhai sydd wedi cael eu holi wedi cael eu cyhuddo o droseddau yn ymwneud â throseddau cyffuriau sydd ddim yn cael eu cysylltu gyda'r llofruddiaeth.
Roedd Mr a Mrs Mullany yn 31 oed ac ar eu mis mêl pan gafodd y ddau eu saethu ar Orffennaf 27 yng Ngwesty Cocos.
Mae'r heddlu yn credu bod lladrad wedi mynd o'i le.
Bu farw Mrs Mullany yn syth ar ôl cael ei saethu yn ei phen.
Bu farw Mr Mullany wythnos yn ddiweddarach ar ôl cael ei drosglwyddo i Ysbyty Treforys, Abertawe.
Cafodd y ddau eu claddu mewn seremoni breifat yr wythnos diwethaf.