BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sul, 17 Awst 2008, 13:37 GMT 14:37 UK
Antigua: Rhyddhau pump o'r wyth

Benjamin a Catherine Mullany
Priododd Ben a Catherine ar Orffennaf 12

Mae pump o'r wyth o bobl gafodd eu harestio mewn cysylltiad â marwolaeth cwpl oedd ar eu mis mêl ar Ynys Antigua wedi cael eu rhyddhau.

Mae'r tri arall yn dal i gael eu cadw yn y ddalfa ac yn cael eu holi gan swyddogion, meddai heddlu Antigua.

Cafodd yr wyth dyn, sydd yn eu 20au, eu harestio ar ôl cyfres o gyrchoedd ar yr ynys.

Daw hyn ar ôl i ddwy ddynes, 32 oed a 22 oed, ymddangos o flaen ynadon ar yr ynys ddydd Iau.

Cafodd y ddwy eu cyhuddo a'u cadw yn y ddalfa. Credir eu bod wedi eu harestio mewn cysylltiad ag eiddo gafodd ei ddwyn o fwthyn gwyliau'r cwpl.

Bu farw Catherine Mullany o Bontardawe yn syth ar ôl cael ei saethu a bu farw Ben wythnos yn ddiweddarach yn yr ysbyty ar ôl iddo ddychwelyd i Gymru.

Cafodd y cwpl, oedd yn 31 oed, eu saethu yn eu bwthyn gwyliau ar Orffennaf 27, pymtheg niwrnod ar ôl iddyn nhw briodi.

Dydd Mercher cafodd Mr a Mrs Mullany eu claddu mewn gwasanaeth preifat yn yr eglwys lle oedd y ddau wedi priodi.

Cafodd y ddau eu saethu yn eu hystafell wely yng ngwesty Cocos yn ne orllewin Antigua.



HEFYD
Ben a Catherine: Gwasanaeth preifat
13 Awst 08 |  Newyddion
Antigua: Cyhuddo dwy fenyw
15 Awst 08 |  Newyddion
Saethu ar fis mêl: Ben wedi marw
03 Awst 08 |  Newyddion
Antigua: Hedfan gwr adre
31 Gorff 08 |  Newyddion
Antigua: Gwobr ariannol
30 Gorff 08 |  Newyddion
Antigua: Dyn 'ddim yn gwella'
30 Gorff 08 |  Newyddion
Saethu ar fis mêl: Gwraig yn marw
28 Gorff 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^