British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 13 Awst 2008, 06:17 GMT 07:17 UK
Myfyrwyr: Dyledion 'yn llai'

Myfyrwyr mewn darlith
Yn l yr arolwg roedd yna ostyngiad yn nyledion myfyrwyr Cymru

Mae lefel dyled myfyrwyr Cymru wedi gostwng dros y flwyddyn ddiwethaf, yn l arolwg sy'n cael ei gyhoeddi ddydd Mercher.

Arolwg cwmni myfyrwyr Push sy'n awgrymu bod y ddyled wedi gostwng 3% ond ei bod hi wedi codi yn Lloegr (9%) a'r Alban (32%).

Ma'r arolwg yn amcangyfrif y gallai pobl sy'n dechrau cwrs eleni ddisgwyl dyled o dros 20,000 erbyn iddyn nhw raddio.

Dywed Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr eu bod yn poeni nad yw'r rhai ar fin dechrau yn y brifysgol yn sylweddoli faint y byddan nhw'n gorfod ei wario yn ystod y cwrs.

Dyled flynyddol

Daw'r arolwg wrth i filoedd o bobl ifanc baratoi ar gyfer canlyniadau arholiadau Safon Uwch ddydd Iau.

Holodd Push dros 2,000 o fyfyrwyr mewn 136 o brifysgolion ym Mhrydain.

Ar gyfartaledd yng Nghymru roedd gan fyfyrwyr ddyled o 4,021 y flwyddyn - y ffigwr ar gyfer Lloegr oedd 4,729 y flwyddyn.

Roedd ffigyrau myfyrwyr flwyddyn gyntaf y llynedd yn dangos dyledion o 5,563 ar gyfartaledd drwy Brydain.

Ym mis Medi 2007 cafodd prifysgolion yr hawl i godi hyd at 3,145 y flwyddyn ar gyfer ffioedd dysgu.

Mae gan fyfyrwyr o Gymru ac yn astudio yng Nghymru'r hawl i geisio am grant o hyd at 1,890 y flwyddyn.

'Sioc'

Mae arolwg arall ddydd Llun yn awgrymu bod myfyrwyr yn disgwyl gwario llai nag y maen nhw mewn gwirionedd ar bethau fel bwyd, biliau a theithio.

Ar gyfartaledd, mae cost bywyd yn y brifysgol 450 yn fwy nag y mae myfyrwyr yn ei ddisgwyl.

"Mae'n sioc, a dweud y gwir," meddai Medyr Llywelyn o Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru.

"Ac mae'r Chweched Dosbarth yn cael diwrnodau gydag arbenigwyr o brifysgolion sy'n dweud be yw'r sefyllfa.

"Ond mae'n amlwg nad ydi nifer ddim yn gwrando."

Dywedodd Aled Williams o Fanc y NatWest fod rhaid i ddarpar fyfyrwyr ystyried materion ariannol.

"Mae mynd drwy'r coleg yn rhan o brofiad hanfodol ac mae cyflogwyr yn chwilio am y profiad hwnnw wrth chwilio am weithwyr y dyfodol.

"Ond rhaid bod yn synhwyrol a rhaid edrych ar yr ochr ariannol ... sdim pwrpas mynd i'r coleg gwario'r gyllideb sydd ganddoch chi yn gyfan gwbl yn y mis cynta a gofyn wedyn sut i fyw am weddill y tymor."

Mae undeb y myfyrwyr yn dweud bod angen mwy o wybodaeth a chyngor ar ddarpar fyfyrwyr ynglyn rheoli'u harian yn well.



HEFYD
'Llwyddiant' denu myfyrwyr
05 Meh 08 |  Newyddion
Prifysgol: Llai yn croesi'r ffin
14 Chwef 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific