BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sul, 10 Awst 2008, 09:14 GMT 10:14 UK
Prifwyl Bala: 'Yr her nesa'

Poster hysbysu Eisteddfod Caerdydd
Fe fydd pobl yn troi am Y Bala nawr

Wrth i'r Eisteddfod orffen yng Nghaeau Pontcanna yng Nghaerdydd mae'r trefnwyr yn meddwl o ddifri am Brifwyl Y Bala ymhen y flwyddyn.

Fe fydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal yn yr un lle â Phrifwyl lwyddiannus 1997, ar dir Y Rhiwlas.

Dywedodd y trefnwyr y byddai'r her yn Y Bala yn wahanol i'r un yng Nghaerdydd.

"Mae'n ardal sy'n adnabod Eisteddfod ..., " meddai Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts.

"Rydan ni'n gobeithio y bydd ein ffrindiau yn dod draw, felly hefyd y ffrindiau a wnaed yng Nghaerdydd eleni.

"Gobeithio y gallwn ddathlu Cymreictod a diwylliant efo gwên yn hytrach na chwyno."

70%

Wedi seibiant ar ôl Eisteddfod Caerdydd fe fydd y trefnwyr yn mynd ati o ddifri i sicrhau Eisteddfod lwyddiannus ym Meirionnydd.

Mae'r gwaith codi arian wedi cychwyn ers dechrau'r flwyddyn ac eisoes wedi codi mwy na 70% o'r targed.

"Fe fydd y gwaith yn dechrau ym mis Medi ar drefnu cyngherddau ac mi fydd hon yn sialens ar ôl cyngherddau eleni," meddai Mr Roberts.

"Mae angen cyngherddau apelgar ac rydan ni'n ffyddiog y byddwn ni'n llwyddo."

Dywedodd Evie Morgan Jones, un o bedwar is-gadeirydd Pwyllgor Gwaith Prifwyl 2009, fod 'na dipyn o fwrlwm yn yr ardal.

"Mae'r gwaith codi arian yn mynd yn ei flaen ac mae nifer eisoes wedi hen basio'r nod.

"Roedd yr Eisteddfod 11 mlynedd yn ôl yn llwyddiannus iawn yn Y Bala ac rydan ni'n edrych ymlaen at groesawu pawb yn ôl i'r un lle."

'Croeso mawr'

Ac roedd yn falch, meddai, o weld cynifer o gorau meibion o'r gogledd wedi mentro i'r de. Dywedodd ei fod yn gobeithio y byddai corau'r de yn mentro i'r Bala.

"Fe fydd 'na groeso mawr i bawb.

"Fe fydd hi'n Eisteddfod cefn gwlad nid yn Steddfod ddinesig ac rydan ni'n gobeithio y bydd modd i bobl fwynhau lleoedd hyfryd y fro ac atyniadau'r Bala.

"Mae'n bwysig bod bobl yn cael cyfle i weld y fro."




O'R MAES

O'R ARCHIF

YR ORSEDD

CEFNDIR

GWEFAN



Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^