Roger Roberts ydi Llywydd newydd Undeb Cymru a'r Byd
|
Mae llywydd newydd Undeb Cymru a'r Byd wedi galw am adfer seremoni croesawu'r Cymry tramor.
Yn ôl yr Arglwydd Roger Roberts mae'r seremoni yn bwysig i'r ymwelwyr.
Mae e hefyd am groesawu mewnfudwyr o wledydd eraill i Gymru a'u hannog i ddysgu'r iaith.
"Mae cymaint o Gymry ifanc yn dod i'r Eisteddfod sy'n byw neu yn gweithio dramor a ddim mewn cysylltiad gyda'r undeb," meddai.
"Fe fydd rhaid cael gafael arnyn nhw.
Moderneiddio
"Fe ddylen ni hefyd gael y Cymry o wledydd eraill ar y llwyfan unwaith eto.
"Rhyw hanner awr o seremoni."
Dywedodd bod dylanwad Cymry ar y byd a'r byd ar y Cymry.
"Dwi am weld y seremoni yn dod yn ôl.
"I raddau, os oes modd ei moderneiddio - er dwn i ddim sut - er mwyn cael sylw arbennig yn yr Eisteddfod.
"Gallen ni wneud yn well a chael mwy na dim ond yr arweinydd ar y llwyfan."
'Syrffed'
Ond mae'r awgrym wedi cythruddo Prif Weithredwr yr Eisteddfod Elfed Roberts.
"Dwi'n siomedig bod yr alwad yn dod unwaith eto," meddai.
"Dwi wedi trafod hyn hyd at syrffed yn fy marn i.
"Mae'r rhan fwyaf o bobl wedi derbyn bellach bod yr hyn yr ydan ni wedi ei wneud yr wythnos yma yn deilwng o'r Cymry o dramor sy'n dod i'r eisteddfod.
"Dwi'n methu â deall pam bod eisiau i ni fynd yn ôl unwaith eto ac ail sefydlu rhywbeth oedd ddim yn gweithio, ddim yn boblogaidd ac yn hen ffasiwn."