Mae Hilma Lloyd Edwards wedi ceisio sawl tro yn y gystadleuaeth
|
Merch sydd wedi ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol am yr ail dro yn hanes y gystadleuaeth.
Hilma Lloyd Edwards o Bontnewydd, Caernarfon enillodd y gystadleuaeth.
Y dasg oedd cerdd neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd gyflawn hyd at 300 llinell ar y thema Tir Newydd.
Ymgeisiodd 10 ac yn ôl y tri beirniad, Emyr Lewis, Nia Powell a Gwyn Thomas, cerddi Eco oedd y rhai gorau.
Roedd gwahaniaeth barn ymhlith y beirniaid ond dywedodd Nia Powell bod y gwaith yn "pefrio a rhagori er gwaethaf brychau am eu bod yn farddoniaeth sy'n 'canu' ac yn gyfoethog ei hawgrym a'i hystyr".
'Tiroedd newydd'
Ac roedd y bardd wedi meddwl am yr hyn ddigwyddodd i'r bobl oedd yn byw yn Easter Island a pham y diflannodd eu diwylliant.
Gan i'r cerddi gyfeirio'n gyntaf at Ynys Y Pasg dilynodd y bardd y thema o ynysoedd gan eu bod yn "diroedd newydd".
Mae Hilma wedi ennill mwy na 50 o gadeiriau a choronau mewn eisteddfodau, gan gynnwys Eisteddfodau Môn, Powys, Pontrhydfendigaid a Llanbedr Pont Steffan.
Ac mae hi wedi ennill sawl gwobr yn Adran Lên yr Eisteddfod Genedlaethol, gan gynnwys y delyneg a'r cywydd.
Cyhoeddodd 12 o nofelau i blant.
Aeth Hilma i Ysgol Gynradd Bontnewydd ac Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon.
Derbyniodd radd dosbarth cyntaf mewn Hen Hanes ym Mhrifysgol Abertawe ac MA mewn Eifftoleg.
Cyfieithydd
Bu'n newyddiadura am gyfnod byr gyda Phapurau'r Herald yng Nghaernarfon cyn ymuno ag uned gyfieithu Cyngor Gwynedd.
Ers pedair blynedd mae'n gyfieithydd gyda Chwmni Cymen, Caernarfon.
Mae hi'n aelod o Orsedd y Beirdd (Urdd Cerddor) ers dyddiau ysgol ac yn Eisteddfod Sir y Fflint y llynedd cafodd ei dyrchafu i Urdd Derwydd.
Dyma'r ail waith yn unig i'r Gadair gael ei hennill yn ystod y pum tro diwethaf i'r Eisteddfod ymweld â Chaerdydd.
Enillydd: Wedi ennill mwy na 50 o gadeiriau a choronau
|
Y tro diwethaf, Gwilym R Jones ennillodd yn 1938.
Dywedodd y beirniaid eleni y bydden nhw wedi gallu'n hawdd llenwi'r cadeiriau eraill.
Mae'r enillydd yn derbyn Cadair yr Eisteddfod, rhodd holl ysgolion Cymraeg cynradd ac uwchradd Cymraeg Caerdydd a'r Fro a £750, rhodd Sally Hughes a'r teulu er cof am John Martel Hughes, cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfodau Cenedlaethol Casnewydd 1988 a 2004.
Cafodd y gadair ei chynllunio gan un o gyn-ddisgyblion ysgolion Cymraeg y brifddinas, Bethan Gray, prif gynllunydd dodrefn cwmni Habitat.
Alex MacDonald o Ddinbych-y-Pysgod luniodd y gadair.