Mwynhad yn ystod yr wythnos: Hardeep Singh Kohli
|
Am y tro cyntaf mae awdur, digrifwr a chyflwynydd wedi bod yn crwydro Caeau Pontcanna am wythnos yn cael blas ar yr Eisteddfod.
Hardeep Singh Kohli o'r Alban oedd yn dehongli'r Brifwyl yn ei ffordd unigryw ar gyfer rhaglen deledu The One Show.
Dywedodd ei fod wedi mwynhau un o'r wyliau diwylliannol mwya o'i fath yn Ewrop.
"Dwi wedi clywed am yr Eisteddfod o'r blaen ac wedi bod yn chwilfrydig am y cyfan," meddai.
"A dwi wedi cael gwybod ei bod hi'n ffordd sydyn o ddeall diwylliant Cymru."
'Croeso arbennig'
Mae'r effaith arno wedi bod yn "hudol," meddai.
"Dwi wedi cael croeso arbennig, un heb ei ail ... dwi erioed wedi cael cymaint o groeso a phobl yn dod allan o'u ffordd i'm gwneud i'n gartrefol.
"Mae 'na rywbeth arbennig wedi digwydd i mi gyda'r Gymraeg yn ystod yr wythnos."
Dywedodd fod rhywbeth arbennig yn digwydd pan oedd cydweithwyr yn dewis siarad Cymraeg yn lle cael eu gorfodi.
"Fe wnes i ddiodde - yn un o'r plant gollodd cael eu magu'n ddwyieithog," meddai.
"Dydi fy Mhwnjabeg ddim cystal ag y gallai hi fod.
"Dwi'n falch o'r Cymry - bod ganddyn nhw iaith sy'n uno gwlad. Dyw hyn ddim yn digwydd yn Yr Alban."
Dyn cyffredin
Wrth gyrraedd pob cwr o'r Maes, meddai, fe gafodd gyfarfod rhai o sêr yr Eisteddfod, gan gynnwys Bryn Terfel, Cerys Matthews, Connie Fisher a Matthew Rhys.
"Gallwch chi wneud rhaglen hanner awr dim ond gyda'r enwau mawr sydd yma," meddai.
Ond dywedodd ei fod eisiau mynd allan i gyfarfod y dyn cyffredin.
"Mae'n anhygoel ac yn codi calon rhywun - gweld pobl o bob oed a phobl o bob math yma gyda'i gilydd mewn un digwyddiad.
"Dwi wrth fy modd gyda'r iaith Gymraeg ac mae'n braf ei chlywed ym mhob man.
Her
"Dwi wedi bod yn ymarfer brawddegau fel 'Oes ganddoch chi sos coch gyda hwnna' ar fy ffordd i Gaerdydd."
Roedd ceisio cyfuno holl weithgareddau'r wythnos mewn rhaglen hanner awr, meddai, yn dipyn o her.
"Mae 'na gymaint yn digwydd yma, ond gobeithio y bydd pobl yn mwynhau'r rhaglen.
"Alla i ddim dychmygu peidio dod i'r Eisteddfod eto er bod gen i berthynas arbennig gyda Chaerdydd.
"Mae 'na gymaint o rannau o Gymru i edrych arnyn nhw - a dim digon o amser."
Hardeep Singh at the National Eisteddfod, nos Lun, Awst 11, ar BBC 2W am 7pm.