Dyfed Edwards ydi prif ddramodydd yr Eisteddfod
|
Enillodd Dyfed Edwards y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Caerdydd a'r Cylch yn ystod ei fis mêl.
Deuddeg niwrnod yn ôl y priododd a hwn sy'n esbonio ei ffugenw, Y Priodfab.
Ysgrifennodd Dyfed, sy'n byw yn Whistable, Caint, ond yn wreiddiol o Rosmeirch, Llangefni, ddrama hir o'r enw Cors Oer.
Dywedodd beirniaid cystadleuaethau cyfansoddi y Ddrama Fer a'r Ddrama Hir, Bethan Jones a Rhys Powys, mai gwaith Dyfed oedd yn haeddu'r fedal.
Yn ôl y ddau, roedd y ddrama yn "glyfar" ac yn "creu awyrgylch".
Mae'r ddrama am hanes teulu sy'n cyfarfod ar fferm ddiarffordd i gladdu eu mam.
Anrhydedd mawr
Dywedodd Dyfed ei bod yn anrhydedd mawr gael ennill a chodi yn y Pafiliwn ac roedd yn falch bod ei wraig, Marnie yno hefyd.
Aeth Dyfed i Ysgol Gynradd Llangefni ac Ysgol Gyfun Llangefni cyn astudio Cyfathrebu yn y Coleg Normal ym Mangor.
Dechreuodd ei yrfa newyddiadurol gyda Phapurau'r Herald yng Nghaernarfon cyn gweithio i'r Daily Post, y Journal yn Newcastle a'r Daily Mail.
Erbyn hyn, mae'n awdur a newyddiadurwr ar ei liwt ei hun ac mae wedi cyhoeddi pedair nofel a dwy gyfrol o straeon byrion yn Gymraeg.
Ym mis Ebrill eleni cyhoeddodd ei nofel gyntaf yn Saesneg o dan y ffugenw Thomas Emson.
Hwn yw'r trydydd tro iddo gystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Roedd yn ail yn y Ddrama fer yn 2003 ac roedd yn cystadlu yn 2006.
Rhoddwyd y Fedal er cof am Urien Wiliam gan ei briod Eiryth a'r plant Hywel, Sioned a Steffan.