Fe fydd yr Archdderwydd yn gwisgo'r wisg newydd am y tro cyntaf ddydd Gwener
|
Bydd Dic Yr Hendre yn gwisgo gwisg newydd yn ystod seremonïau'r Orsedd ddydd Gwener. Fe fydd gan Dic Jones goron newydd sy'n seiliedig ar gynllun y goron bresennol. Roedd cael gwisg newydd yn freuddwyd i Feistres y Gwisgoedd, Siân Aman, ers iddi gael ei phenodi i'r swydd yn 1985. Cafodd y wisg a'r goron eu datgelu yn ystod cyfarfod cyffredinol o Orsedd y Beirdd. Dywedodd Siân Aman (Jean Huw Jones) ei bod wedi pryderu petai rhywbeth yn digwydd i'r wisg bresennol na fyddai un arall wrth gefn. "Mae'r wisg yn dangos ei hoed erbyn hyn. "Felly fe wnes i benderfynu cael cynllun newydd a mynd at Goleg Celf Caerfyrddin." Dywedodd eu bod wedi cynllunio gwisg y trympedwyr, cludwyr y faner a gwisg y bardd buddugol iddi yn y gorffennol. Defnyddio gan bawb Cafodd cystadleuaeth ei chynnal i gynllunio'r wisg a Jemma Jenkins, 19 oed, o Lansamlet ddaeth i'r brig.
Cafodd y wisg ei dadorchuddio yng nghyfarfod blynyddol yr Orsedd
|
Fe wnaeth Joyce Jones, sylfaenydd Cymdeithas Brodwaith Cymru, gynorthwyo Siân Aman yn y broses cyn iddi hi fynd ati i addasu'r cynllun fel bod y wisg yn gallu cael ei defnyddio gan wahanol bobl. "Fe wnes i addasu cynllun Gemma gan fod angen gwneud yn sicr bod y wisg yn mynd i ffitio pawb ac mae'r cefn yn gallu ehangu," eglurodd. "Yna fe wnes i gynllunio'r gwaith brodwaith, torri patrwm ac yna bu 50 o aelodau o'r gymdeithas yn gwneud y gwaith o amgylch y wisg." Mae'r wisg wedi ei gwneud o sidan ac mae Mrs Jones o Gricieth yn gobeithio y bydd yn para yn hirach na'r wisg bresennol. "Nod yr Orsedd sydd wedi ei ddefnyddio gyda'r mês wedyn o amgylch y goler a thu mewn i'r llewys," ychwanegodd. "Bu aelodau 30 oed i 93 oed yn gwneud y gwaith o amgylch y wisg a finne wedyn yn gwneud y gwaith tu mewn a'r sgarff." Enwau Megan Williams o Drefor wnaeth wnio'r gwahanol elfennau at ei gilydd gan gynnwys darnau o ddefnydd o amgylch y llewys a'r goler y bydd modd eu tynnu a'u golchi os ydi archdderwydd yn chwysu! "Mae enwau bob un o'r rhai wnaeth gyfrannu at y gwaith wedi eu gosod y tu mewn i'r wisg," meddai Mrs Williams. "Mae enwau pob archdderwydd fydd yn gwisgo'r wisg hefyd yn cael eu gosod tu cefn i'r sgarff." Cafodd y goron ei hail wneud gan Angharad Pierce Jones.
Mae enwau'r rhai fu'n pwytho tu mewn i'r wisg
|
Cafodd y goron wreiddiol ei gwneud yn 1896 ac mae hi wedi bod yn Llydaw, Yr Alban ac ym Mhatagonia heb sôn am bob cwr o Gymru. "Wedi ail wneud y Goron ar ffurf fodern yr ydw i, nid creu cynllun o'r newydd," meddai. "Fe ges i gyfarwyddyd i gadw at y cynllun gwreiddiol a'i foderneiddio o fewn rheswm ac ehangu arni. "Mae dail y dderwen a'r mês wedi eu llunio o gopr a bras ac wedi eu gosod gydag arian a'u trin ar yr efail. "Gof ydw i ac felly dydi hi ddim yn goron gemydd, efallai nad ydi hyn yn plesio pawb." Siân Aman (Jean Huw Jones) a'i gwr Huw Jones sydd wedi talu am y wisg sy'n rhodd i'r Orsedd a'r Eisteddfod ac mae Cymdeithas Brodwaith Cymru wedi cyfrannu'r edau a'r llafur.
|