Bydd y Maes ar safle hen waith dur Glyn Ebwy
|
Fe fydd Eisteddfod Genedlaethol 2010 yn cael ei chynnal ar safle hen waith dur Glyn Ebwy ym Mlaenau Gwent.
Roedd y cyhoeddiad ar Faes yr Eisteddfod ddydd Iau yng Nghaerdydd.
Ar hyn o bryd mae £300,000 miliwn yn cael ei wario wrth ailddatblygu'r safle ym Mlaenau Gwent.
Roedd yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nglyn Ebwy yn 1958.
Dywedodd Alun Ffred Jones, y Gweinidog Treftadaeth: "Dwi'n croesawu'r newyddion bod yr Eisteddfod yn mynd i Flaenau Gwent.
"Mae gen i gysylltiadau gyda'r ardal, fy nhaid o Gwm Rhymni ac yno y cafodd fy nhad ei eni."
Roedd Eisteddfod Glyn Ebwy'n gofiadwy, meddai. "Yno enillodd T Llew Jones y Gadair ac yno y cafodd perfformiad cyntaf Brad Saunders Lewis ei llwyfannu.
"Mae gan Lyn Ebwy record dda ac felly dwi'n siwr y bydd hi'n Eisteddfod gofiadwy yn 2010.
"Dwi'n falch bod yr adran ddatblygu yn gweld bod digwyddiad diwylliannol yn rhan o'r rhaglen adfywio gan fod adfywio yn fwy na brics a mortar. Mae'r Eisteddfod yn bwerdy diwylliant Cymraeg."
Her
Dywedodd y byddai'n her i'r Eisteddfod fynd i'r ardal.
"Mae'n ardal â llai o draddodiad ond mae 'na ysgolion yn y fro ... fe fydd rhaid i'r Eisteddfod addasu ac fe fydd yn eisteddfod wahanol.
"Mae'n braf bod yr Eisteddfod yn gallu mynd i unrhyw ran a bod diwylliant yn rhan o'r broses adfywio."
Dywedodd y Cynghorydd Des Hillman, arweinydd y cyngor, y byddai'r Eisteddfod yn golygu y byddai cynulleidfaoedd o wahanol rannau o Gymru'n gweld y sir "ar ei newydd wedd".
"Rydyn ni'n hyderus y gallwn ni gynnal Eisteddfod lwyddiannus ac unigryw," meddai.
"Ac rydyn ni'n gobeithio y bydd yn Eisteddfod gofiadwy a phwysig ... ac yn newid agwedd y sir at weddill Cymru a Chymru at y sir.
"Y nod yw dod â phobl o bob cenhedlaeth at ei gilydd, siaradwyr Cymraeg, rhai sy'n dysgu'r iaith a phob un ohonon ni sy â diddordeb yn ein treftadaeth Gymreig a Chymraeg ..."
Dwy filiwn
Bydd safle'r Maes yn 2010 yn cael ei greu'n arbennig ar gyfer y Brifwyl a safle 185 erw yn cael ei ddatblygu.
Yn y dyfodol bydd yr holl safle yn cael ei ddefnyddio ar gyfer tai, addysg, celfyddydau, hamdden a busnes.
Pan fydd y cynllun wedi ei orffen bydd mwy na dwy filiwn o dunelli wedi eu cloddio ac fe fydd 4,663 thunnell o ddur yn cael ei ailgylchu, digon i wneud 66 miliwn o ganiau tun.