Madison Tazu ydi Dysgwr y Flwyddyn
|
Deg mis yn ôl y dechreuodd Madison Tazu ddysgu Cymraeg.
Mewn seremoni yng Nghastell Caerdydd nos Fercher hi enillodd wobr Dysgwr y Flwyddyn Eisteddfod Caerdydd a'r Cylch.
Cafodd Madison, 22 oed, ei geni yn Lloegr ond ei magu yn ardal Aberteifi ac yn yr ysgol roedd hi'n gyndyn o ddysgu'r iaith.
"Mae'n anhygoel, dwi'n methu disgrifio'r teimlad," meddai Ms Tazu ar ôl ennill.
"Dwi mor mor hapus. Dwi'n teimlo fy mod i wedi cyflawni rhywbeth pwysig."
Bu'n rhaid i athrawon ei gwahardd o'r gwersi Cymraeg yn yr ysgol gan nad oedd ganddi ddiddordeb yn y pwnc.
Teithio tramor
Symudodd i Brighton pan oedd yn 17 oed ac wedyn bu'n teithio ar draws Ewrop lle oedd llawer o bobl yn gofyn iddi am iaith ei gwlad.
Am y tro cyntaf yn ei bywyd, meddai, roedd hi'n siomedig nad oedd yn gallu siarad Cymraeg ac felly penderfynodd symud yn ôl i Gymru a dysgu Cymraeg.
Ers mis Medi mae wedi bod yn dysgu Cymraeg ac wedi cyrraedd safon uchel yn barod.
"Doeddwn i ddim yn teimlo fy mod yn Gymraes go iawn, wedi fy ngeni yn Lloegr a'm magu yn Aberteifi.
"Ar ôl bod dramor cwrddais i â llawer o bobl wahanol o ddiwylliant gwahanol ac fe wnaeth hynny agor fy llygaid dipyn bach.
Her nesaf
"Roedd llawer o ddiddordeb gen i mewn ieithoedd eraill.
"Felly pan ddes i nôl sylweddolais i fod llawer o ddiddordeb mewn ieithoedd eraill ond beth am yr iaith dwi wedi gwrthryfela yn ei herbyn?"
Y ddwy ddarlledwraig Sara Edwards a Sian Lloyd - ac Aled Davies o Ganolfan Dysgu Cymraeg y De Orllewin, oedd tri beirniad y gystadleuaeth sy'n dathlu 25 mlynedd.
Dywedodd Aled fod yr enillydd yn wahanol i'r rhai fu'n fuddugol yn y gorffennol.
"Mae hi wedi bod o bosib yn y gorffennol yn wrthwynebus i'r Gymraeg wrth gael ei magu yng ngorllewin Cymru.
"Ond mae hi wedi troi yn llysgennad cry dros y Gymraeg."
Ar ôl meistroli'r Gymraeg mewn 10 mis yr her nesa i Madison yw dysgu Sbaeneg.