Eilir Owen Griffiths ydi enillydd Tlws y Cerddor
|
Arweinydd corau sy'n byw yng Nghaerdydd sydd wedi ennill Tlws y Cerddor yn Eisteddfod Caerdydd a'r Cylch.
Mae Eilir Owen Griffiths, 27 oed, yn wyneb cyfarwydd fel arweinydd sawl côr.
Y dasg oedd cyfansoddiad gwreiddiol rhwng 4 a 6 munud o hyd i bedwar llais gyda chyfeiliant piano neu organ a fyddai yn addas i'w cyflwyno mewn cystadlaethau yn yr Eisteddfod.
Dywedodd y beirniaid, Robat Arwyn a Bryan Davies, mai gwaith 666 oedd yn fuddugol o'r saith darn ddaeth i law a'u bod yn gallu cydnabod dawn cyfansoddwr arbennig a chyffrous.
"Dyma gyfansoddwr mentrus a hyderus, sy'n dangos meistrolaeth lwyr o'r idiom gyfoes a heriol ddaeth yn gyfarwydd ar lwyfannau diweddar trwy gampweithiau corawl Brian Hughes.
"Mae hwn yn ddarn trawiadol gan gyfansoddwr sy'n meddu ar weledigaeth bendant, techneg gadarn, a phersonoliaeth gyfansoddi cwbwl ddireidus."
Teulu cerddorol
Daw Eilir yn wreiddiol o Ddinbych ond gyda'i dad yn weinidog symudodd y teulu lawer iawn gan dreulio amser ym Mhumsaint, Moelfre, Licswm a Bae Colwyn.
Mae'n un o bedwar o blant, y pedwar yn gerddorol, gan deithio gogledd Cymru ar un adeg yn cynnal cyngherddau.
Drwy ei athrawes gerdd yn Ysgol Glan Clwyd, Ann Davies, y cafodd Eilir gyfle i gyfansoddi ar gyfer corau'r ysgol a chyfle i fod yn arweinydd côr.
Astudiodd yng Ngholeg Y Drindod, Caerfyrddin cyn mynd i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru i astudio gradd uwch mewn cyfansoddi.
Roedd ei diwtor yno, Andrew Wilson Dickson, yn ddylanwad mawr arno.
Yn ystod ei gyfnod yno, enillodd nifer o wobrau am gyfansoddi.
Erbyn hyn mae'n drefnydd diwylliannol ac yn ddarlithydd mewn cerddoriaeth yng Ngholeg y Drindod.
Mae'n arweinydd sawl côr llwyddiannus, Côr Coleg y Drindod, Côr Aelwyd CF1 a Chôr Godre'r Garth ac roedd yn un o arweinwyr Côr y Gleision yn y gyfres Codi Canu.
Eglurodd mai darn theatrig ydi hwn gan ei fod eisiau darn o gerddoriaeth a fyddai'n gwthio côr i berfformio darn ac ychydig o gymeriad iddo.
Dewisodd ganolbwyntio ar greu byd cerddorol dwys a digri ar yr un pryd.
Mae Eilir yn derbyn Tlws y Cerddor sy'n rhodd gan Urdd Cerddoriaeth Cymru ac yn derbyn rhodd ariannol o £500 sy'n rhodd gan John Bevan, Caerdydd, er cof am ei wraig Rhiannon.
Mae hefyd yn cael cynnig ysgoloriaeth gwerth £2,000 gan Sefydliad Cenedlaethol Cymru-America i hyrwyddo gyrfa'r cyfansoddwr buddugol.