Yn y Brifwyl: Gabriel Restucha
|
Mae Maer y Gaiman, tref Gymreiciaf Patagonia, yn ymweld a'r Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Dywedodd Gabriel Adrián Restucha, oedd yn annerch Cyfarfod Blynyddol Cymdeithas Cymru-Ariannin, ei fod yn gobeithio mynd â syniadau yn ôl i'r Wladfa.
"Mae'n bleser bod yma yn ystod yr wythnos o gofio bod y cysylltiad rhwng Cymru a Phatagonia.
"Rwyf wedi gosod arwyddion Cymraeg a Sbaeneg yn y Gaiman ac mae hyn yn hybu twristiaeth yn yr ardal."
Dywedodd ei fod yn gobeithio cael mwy o syniadau wrth gerdded o gwmpas Maes yr Eisteddfod cyn mynd yn ôl adref.
Nid dyma ymweliad cyntaf Mr Restucah â'r Eisteddfod.
Bu yn Eisteddfod Llanelwedd yn 1993 ac yng Nghastell-nedd yn 1994.
Ond dyma ei ymweliad swyddogol fel Maer.
Llenyddiaeth
"Dim ond yr hyn sy'n digwydd yn y pafiliwn sydd ganddon ni.
"Efallai bod modd i ni ehangu i gynnal sioe o amgylch y cystadlu a gigs i bobl ifanc a chynnal cyngherddau.
"Dim ond tridiau y mae'r eisteddfod yn cael ei gynnal ac efallai y gallwn ehangu i wythnos."
Cafodd y brodor o'r Gaiman ei addysg gynradd ac uwchradd cyn astudio llenyddiaeth yn y brifysgol yn Nhrelew.
O dras Eidalaidd yr oedd ei dad a'i fam, aelodau teulu enwog yn Nyffryn Camwy.
Yn ei arddegau yr ymddiddorodd Gabriel yn y Gymraeg gan fynd i ddosbarthiadau'r athrawon a deithiai o Gymru i ddysgu Cymraeg yn wirfoddol yn Y Wladfa.
Yn 1993 fe ddysgodd y Gymraeg yn well ym Mhrifysgol Llanbedr Pont Steffan cyn derbyn cymhwyster yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, ar gyfer bod yn diwtor Cymraeg.
Bu'n athro yn Ysgol Camwy, yn cynnal dosbarthiadau Cymraeg ogystal â bod yn diwtor o dan y cynllun uchod.
Mae'n gyfrannwr cyson i Eisteddfod y Wladfa ac Eisteddfod yr Ieuenctid ac mae gan Gabriel a'i briod, Lucía Besada, dri o fechgyn, Marco, Nicolás a Tiago ac un ferch, Lara.