BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 6 Awst 2008, 07:09 GMT 08:09 UK
Arwr: Grav ar frig cystadleuaeth

Ray Gravell
Fe wnaeth 21% o bleidleiswyr ddewis Ray Gravell

Ray Gravell sydd wedi ei ddewis ar frig cystadleuaeth Cewri Cymru.

Cafodd y gystadleuaeth ei threfnu gan Gomisiwn y Cynulliad ac fe gafodd enw'r buddugwr ei gyhoeddi yn ystod cyngerdd ar Faes yr Eisteddfod yng Nghaerdydd.

Cyngerdd i ddathlu bywyd Ray Gravell oedd Grav - Yma o Hyd nos Fawrth.

Nod y gystadleuaeth oedd dod o hyd i'r person sy'n cynrychioli orau beth yw bod yn Gymro neu Gymraes.

Fe lwyddodd Grav, a fu farw fis Hydref y llynedd, i gipio 20% o'r bleidlais.

Yn ail daeth y gantores Katherine Jenkins a'r bocsiwr Joe Calzaghe yn drydedd.

Bu'n rhaid i bleidleiswyr ddewis o restr fer o 10 gafodd ei chyhoeddi ar Fawrth 1.

Blychau pleidleisio

Dywedodd Llywydd y Cynulliad Dafydd Elis-Thomas fod Grav yn ddewis addas iawn.

"Roedd o'n falch o fod yn Gymro ac yn fodlon dangos hynny ar bob achlysur.

"Mae'n addas felly mai ei enw fo sydd ar y brig."

Yn ystod y cyngerdd dywedodd bod Grav yn apelio ar bobl o bob oed.

Enwau eraill ar y rhestr fer oedd Tom Jones, Bryn Terfel, Gethin Jones, Ryan Giggs a James Hook.

Dechreuodd y pleidleisio ym mis Ionawr.

Roedd yna flychau pleidleisio yn Y Senedd yng Nghaerdydd a Chanolfan Ymwelwyr Gogledd Cymru ym Mae Colwyn.

Roedd hefyd modd pleidleisio drwy'r post ac yn Eisteddfod Llangollen a'r Sioe yn Llanelwedd.

Fe dderbyniodd y gystadleuaeth 6,500 o bleidleisiau.




O'R MAES

O'R ARCHIF

YR ORSEDD

CEFNDIR

GWEFAN


HEFYD
Merched Grav i arwain Cymru
10 Maw 08 |  Newyddion
Y cawr fu farw'n rhy gynnar
14 Tach 07 |  Newyddion
Colli'r cawr o Fynydd y Garreg
01 Tach 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^