'Nofel seicedelig': Ifan Morgan Jones
|
Newyddiadurwr ifanc o Aberystwyth sydd wedi ennill Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Caerdydd a'r Cylch 2008.
Ifan Morgan Jones, 24 oed a dirprwy olygydd Golwg, ddaeth i'r brig mewn cystadleuaeth a ddenodd bump o ymgeiswyr.
Y dasg oedd llunio nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn storïol cryf heb fod yn llai na 50,000 o eiriau a'r beirniaid oedd Harri Parri, Meg Ellis ac Emyr Llywelyn.
Dywedodd y beirniaid fod y "nofel seicedelig" Igam Ogam gan Y Pobydd yn llawn haeddu'r wobr.
Mae'r nofel yn cael ei disgrifio fel un yn llinach yr awdur Saesneg Terry Pratchett.
'Aruchel'
Rhybuddiodd Harri Parri wrth draddodi'r feirniadaeth nad nofel i'r dyn cyffredin mo hon ond iddyn nhw fel beirniaid benderfynu gwobrwyo "nofel aruchel".
"Mae gan Y Pobydd ddawn brin i chwarae ar eiriau, dychymyg sy'n drên hir a chrefft sy'n peri i eiriau ddawnsio," meddai.
"Ychwanegwch at y gymysgfa gyfoeth gwybodaeth am hanes Cymru a'i chwedloniaeth a dyna ichi resipi torth ryfeddol Y Pobydd."
Cafodd y gwaith ei lunio yn wreiddiol fel rhan o gwrs MA Ifan a dim ond er mwyn cael beirniadaeth yr oedd wedi cyflwyno'r gwaith i'r gystadleuaeth.
Ymgais oedd y nofel i argyhoeddi'r darllenydd y dylid ymfalchïo yn chwedloniaeth ein gwlad ac roedd creu byd Y Fabinogwlad oedd wedi ei gwau o rai o'r chwedlau hynny yn ddyfais berffaith er mwyn gwneud hynny.
Dylanwadau
Ei nod oedd defnyddio chwedloniaeth Cymru er mwyn cyffwrdd â rhai o bynciau llosg y ddegawd hon, sef defnydd grym milwrol, ymyrraeth gynyddol y wladwriaeth, canlyniadau dinistr natur a chrefydd.
Y dylanwadau mwyaf arno yw awduron a chyfarwyddwyr fel Hayao Miyazaki, Tolkien, Neil Gaiman a Terry Pratchett.
Cafodd Ifan ei fagu yn y Waunfawr ger Caernarfon a'i addysgu yn Ysgol Gynradd Waunfawr, Ysgol Syr Hugh Owen a Phrifysgol Caerdydd lle graddiodd mewn newyddiaduraeth.
Fe ddilynodd gwrs MA mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bangor.
Wedi cwrs newyddiaduraeth yn Newcastle dychwelodd i Gymru lle mae'n ddirprwy olygydd Golwg erbyn hyn.
Enillodd Fedal Goffa Daniel Owen a £5,000, rhodd Gair o Gelf, Pwyllgor Apêl Cyncoed, Pen-y-lan, Y Rhath, Llanedern, Pentwyn a Phontprennau.