Does neb yn cael symud ceir ar y maes oherwydd y tywydd
|
Wedi diwrnod llwyddiannus ddydd Llun ar y Maes o ran nifer yr ymwelwyr mae'r tywydd wedi troi ac yn golygu bod trefnwyr yn atal symud ceir ar y Maes Carafanau.
Roedd carafanwyr wedi cael rhybudd flwyddyn yn ôl wrth logi lle ar y Maes y byddai rhaid atal symud ceir os oedd y tywydd yn troi, yn ôl y trefnwyr.
Mae 600 o garafanau ar y Maes a 50 o bebyll teulu.
"Rydan ni wedi dod i delerau gyda Chyngor Caerdydd, perchnogion y Maes," meddai Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod.
"Roeddan ni wedi rhoi rhybudd i garafanwyr, hynny yw petai'r tywydd yn troi y byddai rhaid gwahardd symud ceir.
"Dydd Mawrth rydan ni wedi gorfod gweithredu ar hyn."
Dywedodd fod hyn er mwyn gwarchod y Maes a sicrhau eu bod yn cadw at reolau iechyd a diogelwch.
"Roedd y carafanwyr yn ymwybodol o hyn ac maen nhw wedi ymateb yn dda iawn ac rydan ni'n ddiolchgar iddyn nhw am gydweithio.
"Dyma'r unig broblem yr ydan wedi ei chael hyd yma o ran y tywydd gwlyb ond mae'n siwr o gael effaith ar bresenoldeb."
Ychwanegodd ei fod yn ddiolchgar am help criw o wirfoddolwyr o Gwm Gwendraeth sy'n rheoli'r Maes ac mewn cysylltiad gydag Alan Gwynant, Swyddog Technegol yr Eisteddfod.