Roedd tua 100 o bobl yn protestio ar y Maes
|
Roedd tua 100 o brotestwyr y tu allan i babell BBC Cymru ar Faes yr Eisteddfod yn galw ar Radio Cymru i ailystyried penderfyniad i ddileu gwasanaeth y de-orllewin.
Yn gynharach eleni cyhoeddodd Radio Cymru y byddai'n newid amserlen o ddiwedd mis Medi ymlaen.
Fe fydd y ddarpariaeth ar gyfer y de-orllewin, rhaglenni Marc Griffiths a Siân Thomas, yn dod i ben.
Dywedodd Deris Williams o Fenter Cwm Gwendraeth fod ganddi dros 3,000 o enwau ar ddeisebau.
"Mae hi'n bwysig ein bod yn dangos gwrthwynebiad i'r penderfyniad.
'Dal i frwydro'
"Rydyn ni wedi cyfrannu'n wirfoddol i'r rhaglenni ac mae Radio Cymru wedi cefnu arnon ni heb gynnal ymgynghoriad.
"Ac rydyn ni'n gofyn i Radio Cymru ail-ystyried a chynnal ymgynghoriad gyda'r cyhoedd.
Deris Williams oedd yn cyfarch y protestwyr
|
"Dim ond had ar y llwybr yw hyn ... fe fyddwn ni'n dal i frwydro."
Roedd pobl ifanc yn amlwg iawn yn y brotest. "Dwi wedi dod yma heddiw am fy mod i'n teimlo bod y gwasanaeth o'r de orllewin yn bwysig," meddai Menna Machreth.
"Mae'r gwasanaeth gychwynnodd Grav wedi denu cymaint o'dd ddim yn gwrnado ar y Gymraeg.
"Rydym yn gweld y gwasanaeth lleol yn berthnasol i ni."
Eglurodd bod nifer o Gymry wedi gwrando ar y gwasanaeth Cymraeg yn lle Radio Sir Gâr sy'n uniaith Saesneg.
"Dwi'n pryderu y bydd pobl yn troi yn ôl i'r gwasanaeth hwnnw."
Ymateb
Roedd nifer o'r protestwyr yn teimlo'n anhapus nad oedd neb o Radio Cymru yn bresennol nac wedi ymateb yn gyhoeddus i'r brotest.
Dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru: "Ein dyletswydd ni yw creu gorsaf wirioneddol genedlaethol sy'n adlewyrchu cymunedau ledled Cymru.
"Gan ddefnyddio rhai o'n cyflwynwyr mwyaf profiadol, mi fyddwn ni'n dod â storïau a rhaglenni o bob cornel o'r wlad at ei gilydd, ar un gwasanaeth cenedlaethol.
"Amser a ddengys, wrth gwrs, ond rydym yn hyderus y bydd y newidiadau yn cynyddu cyrhaeddiad Radio Cymru ac yn atgyfnerthu apêl yr orsaf.
"Fel pob ardal arall, mae gwrandawyr y de orllewin yn holl bwysig i Radio Cymru ac rydym yn hyderus y bydd lleisiau o'r de orllewin yn cael lle amlwg ar raglenni BBC Radio Cymru yn yr amserlen newydd."