Mae T Elwyn Griffiths wedi bod ym mhob Eisteddfod ers 60 mlynedd, pob dydd
|
Mae 'na un dyn wedi bod ar Faes yr Eisteddfod bob dydd am y 60 mlynedd diwethaf.
T Elwyn Griffiths ydi Llywydd Anrhydeddus Cymdeithas Undeb a'r Byd.
Eleni mae'r undeb yn dathlu 60 mlynedd ers ei sefydlu.
Mae Mr Griffiths o Gaeathro ger Caernarfon ond yn wreiddiol o Landybie, newydd ddathlu ei ben-blwydd yn 90 oed.
"Dwi'n credu ei bod hi'n record ond falle ddim," meddai.
"Dwi wedi bod ym mhob un Eisteddfod - diolch am iechyd - ers sefydlu Undeb Cymru a'r Byd ers 1948. A hynny bob dydd am yr wythnos."
Atgofion
Dywedodd y gallai nifer ddweud eu bod wedi bod mewn mwy o Eisteddfodau.
"Ond allen nhw ddweud eu bod nhw wedi bod yma bob dydd?" gofynnodd.
"Efallai mai rhyw ddiwrnod neu ddau y maen nhw'n dod."
Mae ganddo lu o atgofion am yr Eisteddfod ac yn cofio lleoliadau pob un.
"Dwi wedi cael cymaint o foddhad o eisteddfota," meddai.
"Yr un rhoddodd y mwya o foddhad oedd yn 1964 yn Abertawe lle cafwyd y nifer mwya erioed o Gymry dros y môr.
"Doedd 'na ddim amser yn y blynyddoedd cynnar i fynd o gwmpas y Maes oherwydd fy mod yn gweithio bob dydd ym mhabell Undeb Cymru a'r Byd.
"Ond erbyn hyn rwy'n mwynhau mynd i'r Pafiliwn a'r Babell Lên.
"Dwi'n dal i ddisgwyl cael rhyw wobr o rywle ond dwi ddim wedi cael cydnabyddiaeth fel y cyfryw.
"Efallai bod hyn yn rhywbeth i edrych ymlaen ato."