Mae Hywel Griffiths eisoes wedi ennill dwy Gadair Eisteddfod yr Urdd
|
Bardd ifanc o Aberystwyth a chadeirydd Cymdeithas yr Iaith sydd wedi ennill Coron Eisteddfod Caerdydd a'r Cylch 2008.
Hywel Griffiths, 25 oed, ddaeth i'r brig mewn cystadleuaeth a ddenodd 26 o ymgeiswyr.
Y dasg oedd casgliad o gerddi rhydd hyd at 300 llinell ar y testun Stryd Pleser a'r beirniaid oedd Aled Gwyn, Elin ap Hywel a Derec Llwyd Morgan.
Dywedodd y beirniaid fod y casgliad o gerddi'n gafael o'r dechrau.
"Dyma fardd sy'n gallu cynnal ei ddelweddau heb eu godro ac mae ganddo'r ddawn i symud o un cywair i'r llall," meddai Aled Gwyn wrth draddodi'r feirniadaeth.
"Mae 'na weledigaeth a mynegiant bardd hyderus."
O'r tu allan
Noson allan yng Nghaerdydd oedd y symbyliad casgliad o gerddi "Y Tynnwr Lluniau".
Cafodd Hywel ei ysbrydoli ar ôl cerdded ar hyd Heol y Santes Fair ar nos Sadwrn gyda'r lle yn ferw o bobl yn mwynhau eu hunain.
Mae'r Goron yn dathlu 125 mlynedd ers sefydlu Prifysgol Caerdydd
|
"Sylwebaeth o'r tu allan" aelod o genhedlaeth sydd yn heidio i Gaerdydd yw rhai o'r cerddi tra bod eraill yn bortreadau o bobl y mae wedi eu cyfarfod yn y ddinas.
Thema bwysig i Hywel yn y cerddi yw deuoliaeth Caerdydd o ran dosbarth, iaith a'r tyndra rhwng y gorffennol a'r dyfodol.
Enillodd Hywel gadair Eisteddfod yr Urdd ddwywaith, yn 2004 a 2007.
Bore Llun cafodd ei Urddo i Orsedd y Beirdd fel un o brif enillwyr Yr Urdd y llynedd.
Doethuriaeth
Mae Hywel yn fab i'r newyddiadurwr Tweli Griffiths a'i wraig Mair.
Cafodd ei fagu ger pentref Llangynog gyda'i frawd Gareth.
Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Llangynog ac Ysgol Gyfun Bro Myrddin pan ddysgodd y cynganeddion yng nghwmni Eurig Salisbury.
Graddiodd o Brifysgol Aberystwyth mewn Daearyddiaeth a Mathemateg ac mae'n astudio ar gyfer doethuriaeth mewn daearyddiaeth ffisegol ac yn darlithio drwy'r Gymraeg yn Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear.
Mae Hywel yn aelod o dîm Talwrn Y Glêr a thîm Ymryson y Deheubarth.
Enillodd Hywel Goron yr Eisteddfod, rhodd gan Brifysgol Caerdydd gan ei bod hi eleni yn dathlu 125 mlynedd.
Cafodd wobr ariannol hefyd o £750 gan y Brifysgol.
Karen Williams o Fynydd Llandygai wnaeth y goron, a hithau oedd yn gyfrifol am Goron 1999.