Rhodri Morgan: Y Brifwyl yn 'fwy proffesiynol'
|
Dywedodd Prif Weinidog Cymru fod noddwyr yn bwysig iawn fel y gall y Brifwyl barhau ac ehangu.
Yn ei rinwedd "swyddogol" y mae Rhodri Morgan ar Faes Eisteddfod Caerdydd a'r Cylch ddydd Llun.
Wedi ymweliad answyddogol gyda'r teulu ddydd Sul dywedodd ei bod hi'n ymddangos yn Eisteddfod dda.
"Mae pwysigrwydd noddwyr yn bwysig iawn ac mae 'na le i ddiolch iddyn nhw," meddai. "Mae'n gwneud gwahaniaeth sylweddol."
Roedd Mr Morgan yn un o'r gwirfoddolwyr yn Eisteddfod Caerdydd 1978 yn y Babell Gwyddoniaeth a Thechnoleg.
"Mae'r Eisteddfod wedi datblygu, felly hefyd y babell Wyddoniaeth," meddai.
"Rydym yn gweld gwahaniaeth ers yr Eisteddfod ddiwethaf yng Nghaerdydd.
"Mae'r maint yn fwy ac mae'n fwy proffesiynol."
Eglurodd mai pabell yn lle pafiliwn oedd 30 mlynedd yn ôl ond erbyn hyn mae'r hyn sydd ar gael yn arbennig.
Dywedodd hefyd fod 'na ddigon i'w wneud ar y Maes i bawb o bob oed.
"Fe ddes i yma gyda'r wyrion ddoe ac roedden nhw'n mwynhau ac roedd 'na amrywiaeth ar eu cyfer o ran pleser ac addysg."