Mae hon yn enghraifft o dy unnos cyfoes
|
Mae ty unnos cyfoes cyflawn cyntaf i'w weld ar Faes Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd.
Codi ymwybyddiaeth am y gallu i godi tai cynaliadwy ydi bwriad grwp newydd Woodknowledge Wales.
Gobaith y system newydd ydi "gweddnewid byd adeiladu yng Nghymru" a chodi cartrefi cynaliadwy, rhatach, gan ddefnyddio pren Cymreig.
Dyma'r prosiect cyntaf o ran datblygiadau newydd gan Woodknowledge Wales.
Mae'n ddatblygiad sy'n cynnwys Coed Cymru, Prifysgol Bangor ac Ysgol Bensaernïaeth Cymru gyda chymorth Cowley Timber Engineering ac yn defnyddio coed lleol i greu trawstiau gwag sy'n cael eu bolltio at ei gilydd i greu adeiladau arbennig.
Y ty unnos yw'r cartref cyntaf i ddefnyddio'r broses chwyldroadol yma.
Cafodd yr uned unllawr, unllofft ei gwneud gan Elements Europe o Groesoswallt cyn cyrraedd y Maes yn gyflawn.
'Melin drafod'
Mae'n cynnwys ffrâm bocs-drawstiau ac is-ffrâm ysgol-drawstiau, pren meddal Pontrilas Timber gyda'r cydrannau yn cael eu gwneud gan Kenton Jones, y Trallwng.
"Mae'r syniad newydd yn enghraifft arbennig o sut y gall sector coed Cymru gydweithio i gynhyrchu nwyddau ymhlith y gorau yn y byd, a hybu prisiau coed Cymru yr un pryd," meddai Dr Dennis Jones o Woodknowledge Wales.
Blwyddyn sydd ers i'r mudiad gael ei sefydlu fel "melin drafod" Partneriaeth Fusnes Coedwig Cymru.
Y nod yw darparu technegau adeiladu fforddiadwy, ynni-effeithlon, syml a chynaliadwy allai greu gwaith yn yr ardal.
"Gan ddefnyddio coed lleol o faint arferol, rydym wedi dyfeisio ffordd o wneud trawstiau agored cryf y gellir eu rhoi at ei gilydd i wneud adeiladau o bron unrhyw faint," meddai Dr Jones.
Enwyd y math newydd hwn o gartref ar ôl y ty unnos traddodiadol.
"Gyda'r system newydd, bydd pobl yn gallu codi unedau modiwlaidd am bris rhesymol ac ychwanegu atyn nhw yn ôl yr angen a bydd yn ychwanegu gwerth at goed sy'n cael eu tyfu yng Nghymru," ychwanegodd Dr Jones.