Roedd rhaid i Eisteddfodwyr gael tocyn arbennig ar gyfer yr oedfa
|
Am y tro cyntaf eleni roedd rhaid i Eisteddfodwyr gael tocyn arbennig i fynychu'r Oedfa.
Rhai misoedd yn ôl cododd ffrae am fwriad y Brifwyl i godi tâl ar y rhai oedd am fynd i addoli.
Ond wedi trafodaethau rhwng yr Eisteddfod a mudiad Cytûn rhoddwyd tocynnau am ddim ar gyfer yr Oedfa.
Roedd yr Eisteddfod wedi dweud y byddai canran o'r arian ddydd Sul yn mynd tuag at elusennau.
Oherwydd bod rhaid i bob person "gael yr hawl cyfreithiol i fod ar y Maes" yn ôl y trefnwyr roedd rhaid dosbarthu tocynnau.
Balch
Wedi'r Oedfa rhaid oedd i bobl nad oedd â thocyn am weddill y diwrnod adael a thalu i ddychwelyd i'r Maes os oedden nhw'n dymuno.
Roedd rhai Eisteddfodwyr wedi talu £9 er mwyn cael aros ar y Maes am y diwrnod.
Wrth fynd i mewn i'r Oedfa ymateb yr Eisteddfodwyr oedd eu bod yn falch nad oedd rhaid talu.
Mae Aled Edwards yn falch o'r trefniadau
|
"Ddylai neb fod yn gorfod talu i ddod i mewn i addoli, dyma wasanaeth yn lle ein hoedfa arferol," meddai gwraig o Lanbedr-y-Fro ger Caerdydd.
"Fydden i ddim wedi dod petai rhaid talu," ychwanegodd.
Yn ôl Eisteddfodwraig o Lanbedr Pont Steffan roedd hithau'n falch nad oedd rhaid talu.
"Fe fydden i wedi dod ac wedi talu os oedd angen," meddai.
Yn ôl yr Eisteddfod roedd y trefniant ddydd Sul i weld wedi gweithio a phobl wedi bod yn onest.
Dywedodd y Parchedig Aled Edwards, Prif Weithredwr Cytûn, bod y system wedi gweithio yn eithriadol o dda.
"Fe wnaeth mwyafrif lleol y gynulleidfa ddychwelyd eu tocynnau fel yr oeddem wedi ei drefnu," meddai.
"Heb gyfri'r gynulleidfa yn llwyr, rydym yn lled awgrymu bod 'na fwy o bobl yn y gwasanaeth na'r llynedd ac felly bod y mater yma o bwys i'r gymuned a'u bod wedi mynegi barn ar gael gwasanaeth rhad ac am ddim.
"Fe fyddwn yn annog yr Eisteddfod i ystyried o ddifri yr un system y flwyddyn nesaf."