BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sul, 3 Awst 2008, 16:48 GMT 17:48 UK
Saethu ar fis mêl: Ben wedi marw

Benjamin a Catherine Mullany
Priododd Ben a Catherine ar Orffennaf 12

Mae dyn 31 oed o ardal Abertawe gafodd ei saethu tra ar ei fis mêl ar Ynys Antigua wedi marw.

Bu farw Benjamin Mullany ar ôl profion ar ei ymennydd yn ysbyty Treforys Abertawe.

Cafodd gwraig Benjamin, Catherine oedd hefyd yn 31 oed, ei lladd yn y digwyddiad wythnos yn ôl.

Roedd Mr Mullany yn fyfyriwr ffisiotherapi trydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr ym Mryste.

Priododd y ddau ar Orffennaf 12 ym Mhontardawe.

Cafodd gwasanaethau arbennig eu cynnal yng nghapeli ac eglwysi ardal Pontardawe ddydd Sul.

Mae llyfr cydymdeimlad wedi ei agor yng nghapel ysbytai Treforys a Singleton yn Abertawe.

Yn y cyfamser, mae pump o swyddogion yr heddlu o Brydain wedi ymweld â safle'r saethu yn y Caribî er mwyn helpu'r heddlu lleol.

Gwasanaeth ym Mhontardawe ddydd Sul
Cafodd gwasanaeth arbennig ei gynnal ym Mhontardawe ddydd Sul

Maen nhw wedi mynd yno, wedi eu harwain gan yr uwch arolygydd Keith Niven, ar gais yr heddlu lleol sydd wedi cyfaddef bod yr ymchwiliad wedi eu hymestyn i'r eithaf.

Mae gwobr ariannol o tua £67,000 eisoes wedi'i gynnig er mwyn ceisio dal y llofrudd.

Mae'r heddlu yn holi dyn lleol mewn cysylltiad â'r ymosodiad.



HEFYD
Saethu ar fis mêl: Ben nôl adref
02 Awst 08 |  Newyddion
Antigua: Llofruddiaeth debyg?
01 Awst 08 |  Newyddion
Antigua: Hedfan gwr adre
31 Gorff 08 |  Newyddion
Antigua: Gwobr ariannol
30 Gorff 08 |  Newyddion
Antigua: Dyn 'ddim yn gwella'
30 Gorff 08 |  Newyddion
Saethu ar fis mêl: Holi pump
29 Gorff 08 |  Newyddion
Saethu ar fis mêl: Gwraig yn marw
28 Gorff 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^