BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 2 Awst 2008, 14:39 GMT 15:39 UK
Eisteddfodwyr yn darllen y Beibl

Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas
Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas yn darllen o'r Beibl

Bore dydd Sadwrn ym Mhabell Eglwysi Cymru fe gychwynnodd y gwaith o ddarllen Y Beibl.

Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas gychwynnodd y darllen o Lyfr Genesis.

Bwriad y syniad ydi darllen y Beibl o glawr i glawr yn ystod yr wythnos.

Mae eleni yn 20 mlynedd ers i argraffiad newydd o'r Beibl Cymraeg gael ei gyhoeddi.

Yn l Eluned Edwards o'r Wyddgrug - wnaeth drefnu'r digwyddiad - mae 'na obaith gallu darllen y Beibl yn ystod yr wythnos.

"Ond oherwydd diffyg amser mae'n bosib na allwn ni wneud y cyfan," meddai.

"Ond efallai y bydd 'na wyrth."

Argraffiad Newydd

Dywedodd ei bod wedi cael y syniad ar l gweld digwyddiad tebyg yn Aberaeron y llynedd lle'r oedd bobl yn darllen y Beibl am 88 awr ddydd a nos.

"Mae'n bosib na fydd modd darllen ddydd a nos ar y Maes.

"Gan ei bod yn 20 mlynedd ers i'r argraffiad newydd o'r Beibl gael ei gyhoeddi roeddwn yn meddwl ei bod yn syniad da i gynnal y gweithgaredd," ychwanegodd Mrs Edwards sy'n flaenor yng Nghapel Bethesda Yr Wyddgrug.

"Mae'n gyfle i ddathlu 20 mlynedd ers yr argraffiad newydd.

"Heb Feibl William Morgan fyddai'r Gymraeg ddim mewn bodolaeth heddiw."

Fe fydd y sesiynau darllen bob rhyw 20 munud yn y babell.

Wrth gychwyn y gweithgaredd, dywedodd Denzil John, Gweinidog Eglwys y Tabernacl yng Nghaerdydd, ei fod yn "fenter newydd, unigryw i'r Eisteddfod".

"Mae'n gyfle i gael Duw yn ein diwylliant a dwi'n dymuno'n dda i'r fenter o ddarllen y Beibl o ddydd Sadwrn i ddydd Sadwrn."

Gallwch gynnig eich enw i ddarllen ym Mhabell Eglwysi Cymru ar y Maes.




O'R MAES

O'R ARCHIF

YR ORSEDD

CEFNDIR

GWEFAN



Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^