Ambiwlans yn cludo Ben Mullaney ym Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd
|
Mae dyn 31 oed sydd mewn cyflwr difrifol ar ôl cael ei saethu tra ar ei fis mêl ar Ynys Antigua wedi cyrraedd yn ôl i Gymru.
Glaniodd yr awyren ambiwlans oedd yn cludo Benjamin Mullaney , 31 oed, ym Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd yn gynnar ddydd Sadwrn, a chafodd Ben ei gludo i Ysbyty Treforys Abertawe lle mae meddygon yn asesu ei gyflwr.
Cafodd gwraig Ben, Catherine, oedd yn 31 oed, ei lladd ddydd Sul.
Fe wnaeth ei rhieni hi, David a Rachel Bowen, hebrwng ei chorff yn ôl ar awyren a laniodd ym maes awyr Gatwick am 5.10am ddydd Sadwrn.
Yn y cyfamser, dywedodd pennaeth Heddlu Antigua, Gary Nelson, bod un person yn y ddalfa yn cael ei holi mewn cysylltiad â'r saethu.
Ychwanegodd Mr Nelson fod achos Catherine a Benjamin Mullaney yn debyg i achos blaenorol pan gafodd dyn ei saethu ar yr ynys lai na deufis yn ôl.
'Cysylltiad'
Roedd yr achos hwnnw hefyd yn ymddangos fel lladrad, a chafodd dyn ifanc ei saethu yng nghefn ei ben.
"Rwy'n credu nad dyma'r tro cyntaf i'r llofruddwyr daro a dwi'n credu bod yna gysylltiad gydag achosion eraill," meddai Mr Nelson.
Mae gwobr ariannol o £67,000 wedi cael ei gynnig am wybodaeth fydd yn arwain at ddedfrydu'r llofrudd.
Cafodd Mr Mullany ei saethu yng nghefn ei ben.
Priododd Ben a Catherine ar Orffennaf 12
|
Fe adawodd Ysbyty Holberton yn y brifddinas, St John's, ddydd Gwener.
Mae wedi bod ar beiriant cynnal bywyd.
Fe wnaeth meddygon gludo Mr Mullaney o'r ysbyty ar y daith 10 munud i'r maes awyr.
Cyfle i wella
Yn ôl adroddiadau o'r ysbyty ychydig iawn o siawns oedd gan Mr Mullaney i wella ond roedd ei rieni, Marilyn a Cynlais, yn credu bod ganddo fwy o gyfle i wella yn ôl ym Mhrydain.
Doedden nhw ddim yn yr ysbyty pan wnaeth eu mab adael ond roedden nhw wedi treulio 45 munud wrth ei wely.