Priododd Ben a Catherine ar Orffennaf 12
|
Mae'n bosib bod yna gysylltiad rhwng llofruddiaeth ar Ynys Antigua lai na deufis yn ôl ag ymosodiad ar gwpl o Gymru ddydd Sul.
Dywed pennaeth Heddlu Antigua, Gary Nelson, fod achos Catherine a Benjamin Mullany yn debyg i achos blaenorol pan gafodd dyn ei saethu.
Cafodd Mrs Mullany, 31 oed, o ardal Abertawe ei saethu'n farw yn yr ymosodiad.
Mae ei gŵr, Benjamin, 31 oed, yn cael ei hedfan yn ôl i Gymru.
Mae ei gyflwr yn ddifrifol.
Dywed Mr Nelson fod yna gysylltiad posib rhwng yr ymosodiad a digwyddiad tebyg lai na deufis yn ôl.
Roedd yr achos hwnnw hefyd yn ymddangos fel lladrad, a chafodd dyn ifanc ei saethu yng nghefn ei ben.
"Rwy'n credu nad dyma'r tro cynta i'r llofruddwyr daro a dwi'n credu bod yna gysylltiad gydag achosion erial," meddai Mr Nelson.
"Mae yna rywbeth o'i le gyda'r person yma."
Cafodd Mr Mullany ei saethu yng nghefn ei ben.
Fe adawodd o Ysbyty Holberton yn y brifddinas, St John's, ddydd Gwener .
Mae o wedi bod ar beiriant cynnal bywyd.
Fe wnaeth meddygon gludo Mr Mullany o'r ysbyty ar y daith 10 munud i'r maes awyr.
Cyfle i wella
Fe fydd yr awyren yn aros yn Wilmington, Delaware, yn America i gael mwy o danwydd.
Yn ôl adroddiadau o'r ysbyty ychydig iawn o siawns oedd gan Mr Mullany i wella ond roedd ei rieni, Marilyn a Cynlais, yn credu bod ganddo fwy o gyfle i wella yn ôl ym Mhrydain.
Roedd y ddau yn dod o ardal Pontardawe
|
Doedden nhw ddim yn yr ysbyty pan wnaeth eu mab adael ond roedden nhw wedi treulio 45 munud wrth ei wely.
Wrth i Mr Mullany ddychwelyd adre mae'r ymchwiliad i lofruddiaeth ei wraig ar yr ynys yn parhau.
Mae ei rhieni hi hefyd, David a Rachel Bowen, wedi teithio i'r ynys.
Mae gwobr ariannol o £67,000 wedi cael ei gynnig am wybodaeth fydd yn arwain at ddedfrydu'r llofrudd.
Fe wnaeth y cwpl briodi ar Orffennaf 12 ym Mhontardawe.