Mae'r llyfrynau yn rhad ac am ddim
|
Mae llyfryn arbennig wedi cael ei gynhyrchu i fod o gymorth i ddysgwyr a'r di-Gymraeg fwynhau'r Eisteddfod.
Mae yr ?yl yn eich Poced yn egluro tarddiad yr Eisteddfod, y prif atyniadau, yr arwyddion sydd i'w gweld ar y maes a chymorth i ynganu geiriau a brawddegau defnyddiol.
Mae'r llyfryn lliwgar 128 tudalen ar gael am ddim yng Nghanolfan Groeso'r Eisteddfod ac yn siop Borders yng Nghaerdydd.
Mae 'na wybodaeth hefyd am sut a lle i fynd ati i ddysgu'r Gymraeg.
Ymhlith y wybodaeth ddefnyddiol mae brawddegau defnyddiol fel "allwch chi fy helpu?"; "ble mae'r toiledau" a sut i archebu bwyd.
"Roeddem am gynhyrchu llyfryn tebyg i lyfrau gwybodaeth Lonely Planet," meddai Gwenllïan Willis, Swyddog Y Dysgwyr i'r Eisteddfod.
"Fe fydd y llyfrynnau yn gymorth i'r rhai sydd ddim yn rhugl yn y Gymraeg i fwynhau'r Eisteddfod.
"Mae o faint addas i'w roi yn eich poced."