BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 31 Gorffennaf 2008, 07:24 GMT 08:24 UK
Môr-filwr yn marw wrth hyfforddi

Mae môr-filwr wedi marw yn ystod sesiwn hyfforddi ym Mannau Brycheiniog.

Fe wnaeth y Weinyddiaeth Amddiffyn gadarnhau bod Benjamin Poole wedi marw ddydd Llun.

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth nad oedd achos ei farwolaeth yn glir ar hyn o bryd ac y byddai'n amhriodol gwneud sylw tan fod archwiliad post mortem wedi cael ei gwblhau.

Mae Heddlu Dyfed-Powys a'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn ymchwilio.

"Rydym wedi cael ein tristáu gan farwolaeth sydyn Benjamin Poole ac mae'n meddyliau gyda'i deulu ar yr amser anodd yma," meddai datganiad gan y Weinyddiaeth.

"Bu farw'r Môr-filwr Poole wrth hyfforddi ar Orffennaf 28."

Dywedodd y llefarydd eu bod yn cydweithio gyda'r heddlu a'r gweithgor iechyd.

Ychwanegodd bod teulu Mr Pool wedi apelio am breifatrwydd.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^