Priododd Ben a Catherine ar Orffennaf 12
|
Mae disgwyl y bydd dyn 31 oed o ardal Abertawe, sydd mewn cyflwr difrifol ar ôl cael ei saethu tra ar ei fis mêl ar Ynys Antigua , yn cael ei hedfan yn ôl i Brydain ddydd Gwener.
Cafodd gwraig Benjamin Mullaney, Catherine oedd yn 31 oed, ei lladd yn y digwyddiad ddydd Sul.
Yn y cyfamser, mae llyfr cydymdeimlad wedi ei agor yng nghapel ysbytai Treforys a Singleton yn Abertawe er cof am Catherine.
Ar Ynys Antigua mae'r ymchwiliad yn parhau ac mae gwobr ariannol o tua £67,000 eisoes wedi'i gynnig er mwyn ceisio dal y llofrudd.
Mae'r heddlu yn holi dyn lleol mewn cysylltiad â'r ymosodiad. Credir bod y cwpl wedi cwrdd ag ef ar y traeth.
Mae tîm o dditectifs o Gymru wedi cynnig cymorth i'r ymchwiliad ac yn bwriadu hedfan i'r Caribî.
Fe wnaeth rhieni Mr Mullany, Marilyn a Cynlais, hedfan i Antigua ddydd Mawrth i fod wrth erchwyn eu mab gyda rhieni Dr Mullany, Rachel a David Bowen.
Cymorth yr heddlu
Mae Mr a Mrs Mullany wedi penderfynu hedfan eu mab yn ôl i Gymru lle maen nhw'n gobeithio y bydd gan feddygon fwy o gyfle i achub ei fywyd.
Mae disgwyl y bydd yn dod adre mewn ambiwlans awyr ddydd Gwener.
Roedd y ddau yn dod o ardal Pontardawe
|
Credir bod Mr Mullany, myfyriwr ffisiotherapi trydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr ym Mryste, wedi cael ei saethu yn ei wddw.
Mae o'n cael gofal yn yr uned gofal dwys yn Ysbyty Holberton ym mhrifddinas yr ynys, St John's.
Yn ôl archwiliad post mortem ar gorff Dr Mullany fe fu hi farw o anaf ar ôl cael ei saethu.
Cafodd dau swyddog diogelwch yng ngwesty Cocos, lle digwyddodd y saethu, eu holi a'u rhyddhau ac mae tri o ddynion eraill yn dal i gael eu holi mewn cysylltiad â'r ymosodiad, ond dydi'r tri ddim o dan amheuaeth ar hyn o bryd.
Fe wnaeth Prif Weinidog Antigua yn y cyfamser annog heddlu Prydain i gynorthwyo i ddatrys yr achos ac achosion eraill dros y 10 mlynedd diwethaf.
Bygythiad
Dywedodd Baldwin Spencer na fyddai'r llywodraeth yn goddef unrhyw beth a fyddai'n effeithio ar enw da'r ynys a'r diwydiant twristiaeth.
"Mae'r wlad wedi gwneud enillion dros y pedair blynedd diwethaf, ond fel llywodraeth a phobl allwn ni ddim caniatáu i anrhefn a thrais erydu enw da a buddiannau mae'r wlad yn ei fwynhau," meddai wrth bobl ei wlad.
"Mae llofruddiaeth Catherine Mullany a'r ymosodiad ffiaidd ar ei g?r yn fygythiad uniongyrchol ar ein prif ddiwydiant, twristiaeth."
Eglurodd Mr Spencer ei fod wedi gofyn am gymorth Heddlu Scotland Yard i ddatrys nifer o lofruddiaethau sydd wedi digwydd yno dros y 10 mlynedd diwethaf.
Ac fe wnaeth feirniadu Prydain ac America am y nifer cynyddol o droseddwyr oedd yn cael eu halltudio i Antigua.
Roedd Mr a Mrs Mullany yn mwynhau eu diwrnod olaf o'u gwyliau ar ôl priodi ar Orffennaf 12 ym Mhontardawe.
Credir mai lladron wnaeth saethu tuag at y cwpl.