Fe briododd y cwpl ar Orffennaf 12 cyn mynd i'r Caribî
|
Mae gwobr ariannol o tua £67,000 yn cael ei gynnig am wybodaeth a fydd yn arwain at ddedfrydu llofrudd meddyg o dde Cymru tra ar ei mis mêl yn y Caribî.
Bu farw Catherine Mullany, 31 oed, ar ôl cael ei saethu yn eu gwesty ar Ynys Antigua ddydd Sul.
Mae ei gŵr, Benjamin Mullany, 31 oed, mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.
Fe wnaeth yr heddlu gyfadde ddydd Mercher nad oedden nhw'n agos at ganfod y llofrudd.
Yn ôl yr heddlu cafodd dau swyddog diogelwch yng ngwesty Cocos, lle digwyddodd y saethu, eu holi a'u rhyddhau.
Priodi
Mae tri o ddynion eraill yn dal i gael eu holi mewn cysylltiad â'r ymosodiad, ond dydi'r tri ddim o dan amheuaeth ar hyn o bryd.
Roedd Mr a Mrs Mullany yn mwynhau eu diwrnod olaf o'u gwyliau ar ôl priodi ar Orffennaf 12 ym Mhontardawe.
Fe wnaeth teulu'r cwpl hedfan i'r ynys ddydd Mawrth.
Bu Catherine yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Ystalyfera
|
Mae rhieni Mr Mullany, Marilyn a Cynlais, wedi bod wrth erchwyn ei wely gyda rhieni Catherine.
Dywedodd comisiynydd yr heddlu, Gary Nelson, ddaeth o Ganada i Antigua i wella'r gwasanaeth heddlu yno yn gynharach eleni, eu bod yn edrych ar bob dyn ifanc sydd wedi cyflawni troseddau treisgar ac yn eu holi.
"Mae rhywun yn rhywle yn gwybod rhywbeth. Mae gan y person sy'n gyfrifol gariad neu berthynas sy'n gwybod rhywbeth," meddai.
"Dwi'n apelio arnyn nhw i'n cynorthwyo i ddal pwy bynnag sy'n gyfrifol."
Mae'r wobr ariannol wedi cael ei roi gan aelodau o Gymdeithas Gwestai Antigua a Barbuda a busnesau lleol sydd wedi casglu 250,000 o ddoleri Dwyrain Caribî (tua £48,000).
Mae dyn busnes anhysbys wedi cynnig 100,000 doleri Dwyrain Caribî ychwanegol (tua £19,000).
Credir mai lladron wnaeth saethu tuag at y cwpl.