Fe aeth Manon Jones allan i LA i ffilmio rhannau Matthew a Ioan
|
Ar drothwy'r Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd mae tri o sêr enwoca'r brifddinas a Chymru wedi dod at ei gilydd i wneud ffilm fer i hyrwyddo darpariaeth BBC Cymru o'r brifwyl.
Ioan Gruffudd, Matthew Rhys a Gethin Jones sydd yn yr hysbysebion ar y we, ar deledu ac i'w clywed ar radio.
Ond dywedodd cynhyrchydd yr hysbyseb nad oedd yn sicr y gallai gael y tri i gymryd rhan ond ei bod yn falch iddi lwyddo.
Fe fydd y brifwyl yn cychwyn yng Nghaeau Pontcanna yng nghanol Caerdydd ddydd Sadwrn am wythnos.
"Nhw oedd y tri dewis delfrydol o holl Gymry enwog y ddinas sydd wedi bod drwy'r broses Eisteddfodol," eglurodd Manon Jones.
"Dwi'n falch i ni lwyddo i'w cael, er bod yr amser rhwng y ffilmio a dangos yr hysbyseb yn fyr iawn."
Ansicrwydd
Fe aeth Ms Jones fel y tri seren i Ysgol Gyfun Glantaf yng Nghaerdydd ac roedd hi'n teimlo bod hi'n bwysig cael yr enwogion i hyrwyddo darpariaeth y BBC o'r Eisteddfod i gynulleidfa ehangach.
Ychydig dros wythnos yn ôl y cafodd sicrwydd y byddai'n gallu mynd i Los Angeles i ffilmio rhannau Matthew ac Ioan.
"Fe wnes i ffilmio'r deunydd gyda Gethin yng nghanolfan ddarlledu'r BBC yn Llundain ac ar y pryd doedd 'na ddim sicrwydd y byddwn i'n gallu mynd allan i America.
Cafodd rhan Gethiin ei wneud yn Llundain
|
"Roedd rhaid gwneud yn siwr bod Ioan a Matthew ar gael ar yr un diwrnod a chael fisa ffilmio yn America.
"Ond wedi cael sicrwydd fe es i allan a chyfarfod Prydeiniwr sy'n byw yno i helpu i chwilio am leoliadau ar gyfer y ffilmio."
Cafodd afael ar dŷ gwych gyda golygfeydd arbennig o Hollywood.
"Un tŷ sydd wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer rhan Ioan a Matthew, lle mae'r ddau ar y we ac ar y ffôn yn trafod gwylio'r Eisteddfod ac yn cysylltu yn ôl gyda Gethin sy'n Llundain," eglurodd.
"Cafodd y ffilmio ei wneud ddydd Gwener cyn i mi hedfan yn ôl ddydd Sadwrn a chychwyn y gwaith golygu ddydd Sul a dydd Llun.
"Fe aeth yr hysbyseb cyntaf allan ar deledu nos Lun," ychwanegodd Ms Jones.
Eglurodd bod 'na fersiynau wedi cael eu paratoi ar gyfer wythnos yr Eisteddfod hefyd sy'n cyfeirio at ddigwyddiadau penodol fel y cadeirio a'r coroni.
"Dyma oeddwn eisiau ond doeddwn i ddim yn siwr a fyddai'n digwydd - pur anaml gewch chi be 'da chi isio," meddai.
"Ond dwi'n falch iawn o'r canlyniad, mae'r adborth wedi bod yn wych ac mae wedi cael cryn dipyn o sylw."