Priododd Ben a Catherine ar Orffennaf 12
|
Mae adroddiadau o'r Caribî nad yw dyn o Gwm Tawe gafodd ei saethu ar ynys Antigua yn gwella.
Mae Benjamin Mullany , 31 oed, mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.
Cafodd ei wraig Catherine Mullaney, 31 oed, ei lladd mewn digwyddiad ddydd Sul ar Ynys Antigua.
Roedd y ddau yn mwynhau diwrnodau olaf eu mis mêl ar ôl priodi ar Orffennaf 12 ym Mhontardawe.
Sioc
Mae'r heddlu ar yr ynys yn holi pump o ddynion ynghylch lladrad honedig a llofruddiaeth Mrs Mullaney.
Fe wnaeth teulu'r cwpl hedfan i'r ynys ddydd Mawrth.
Mewn datganiad ar y cyd dywedodd y ddau deulu eu bod yn methu credu'r hyn sydd wedi digwydd.
Bu Catherine yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Ystalyfera
|
"Rydym yn dal mewn sioc am yr hyn sydd wedi digwydd i Ben a Catherine.
"Rydym yn gwerthfawrogi cefnogaeth ein teulu a ffrindiau ac rydym yn gofyn i'r wasg barchu ein teimladau a'n preifatrwydd yn yr amser anodd yma."
Mae'n debyg mai lladron wnaeth saethu at y cwpl.
Dywedodd y Gweinidog Twristiaeth a Hedfan Sifil Antigua, Y Gwir Anrhydeddus Harold Lovell, bod y saethu wedi digwydd tua 4.40am amser lleol ddydd Sul.
"Mae ein meddyliau a chydymdeimlad gyda'r teuluoedd ar yr amser anodd yma.
"Mae gennyf bob hyder yn Heddlu Antigua a Barbuda sydd yn cynnal ymchwiliad trylwyr.
"Mae'r digwyddiad yma wedi synnu ein cymuned ac rydym eisiau rhoi sicrwydd i ymwelwyr bod Antigua a Barbuda yn ddiogel," meddai Mr Lovell.