Bu Catherine yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Ystalyfera
|
Mae pump o bobl yn cael eu holi ynglŷn â llofruddiaeth meddyg o Bontardawe tra ar ei mis mêl ar Ynys Antigua.
Maen nhw'n cael eu holi yn St Johns, prifddinas Antigua.
Fe gafodd Catherine Mullaney, 31 oed, ei lladd mewn digwyddiad ddydd Sul.
Cafodd ei gŵr Benjamin ei anafu'n ddifrifol ac mae o mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.
Dywedodd teuluoedd y ddau mewn datganiad ar y cyd: "Rydym yn methu â chredu ac yn dal mewn sioc am yr hyn sydd wedi digwydd i Ben a Catherine.
"Rydym yn gwerthfawrogi cefnogaeth ein teulu a ffrindiau ac rydym yn gofyn i'r wasg barchu ein teimladau a'n preifatrwydd yn yr amser anodd yma."
'Hynaws'
Bu Catherine, Bowen cyn priodi, yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Ystalyfera.
Dywedodd un o'i chyn-athrawon, Lloyd Williams bod Catherine yn ferch fywiog a hynaws dros ben.
"Roedd hi'n boblogaidd gyda'r disgyblion a'r staff, ac yn gydwybodol".
Priododd y ddau yn gynharach y mis hwn
|
Ychwanegodd un arall o'i chyn-athrawon, Tesni Lloyd: "Roedd hi'n ferch amryddawn.
"Mae meddwl am löyn byw fel Catherine yn cael ei difetha mewn modd mor greulon yn difa ysbryd rhywun".
Roedd Catherine yn gweithio yn uned paediatreg Ysbyty Singleton, Abertawe.
Dywedodd Paul Williams, prif weithredwr Ymddiriedolaeth Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, fod staff wedi synnu o glywed y newyddion trasig.
"Roedd hi'n feddyg poblogaidd a thalentog gyda gyrfa dda o'i blaen.
"Mae ein cydymdeimlad gyda'i theulu ac rydym yn gweddïo y bydd ei gŵr yn gwella."
'Trasig'
Dywedodd Mike Cosgrove, ymgynghorydd Paediatreg, ei bod yn anodd credu'r newyddion.
"Rydym i gyd mewn sioc. Roedd hi fod i ddychwelyd o'i mis mêl ddydd Llun, ond yn hytrach ry' ni'n clywed y newyddion trasig yma.
"Does neb yn gallu credu fod hyn wedi digwydd."
Yn Antigua mae swyddogion yr heddlu wedi bod chwilio drwy'r llwyni dwys o gwmpas ganolfan wyliau am unrhyw dystiolaeth.
Roedd ymwelwyr mewn bwthyn cyfagos wedi clywed yr ergyd.
Dywedodd y Gweinidog Twristiaeth a Hedfan Sifil Antigua, Y Gwir Anrhydeddus Harold Lovell, bod y saethu wedi digwydd tua 4.40am amser lleol ddydd Sul.
"Mae ein meddyliau a chydymdeimlad gyda'r teuluoedd ar yr amser anodd yma.
"Mae gennyf bob hyder yn Heddlu Antigua a Barbuda sydd yn cynnal ymchwiliad trylwyr.
"Mae'r digwyddiad yma wedi synnu ein cymuned ac rydym eisiau rhoi sicrwydd i ymwelwyr bod Antigua a Barbuda yn ddiogel," meddai Mr Lovell.
Fe briododd y cwpl ar Orffennaf 12.
Fe gyrhaeddodd y ddau Antigua ar Orffennaf 14 am fis mêl o bythefnos.