BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 28 Gorffennaf 2008, 12:29 GMT 13:29 UK
Saethu ar fis ml: Gwraig yn marw

Benjamin a Catherine Mullany, Bae Rhoshili
Fe briododd Benjamin a Catherine Mullany ar Orffennaf 12.

Mae meddyg o ardal Pontardawe wedi cael ei lladd a'i gŵr wedi cael ei anafu'n ddifrifol ar l cael eu saethu yn ystod eu mis ml ar ynys Antigua ddydd Sul.

Mae'r Swyddfa Dramor wedi cadarnhau bod Catherine Mullany wedi marw o'i hanafiadau.

Credir fod hi a'i gŵr yn 31 oed.

Mae Benjamin Mullany mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Yn l llefarydd ar ran yr heddlu mae'n ymddangos fod y rhai oedd yn gyfrifol wedi torri i mewn i fwthyn y cwpwl tra oedden nhw'n cysgu.

Dyw'r cymhelliad am yr ymosodiad ddim yn glir eto, ond mae'r heddlu lleol yn trin y digwyddiad fel lladrad sydd wedi mynd o chwith.

Dywedodd teuluoedd y ddau mewn datganiad ar y cyd: "Rydym yn methu a chredu ac yn dal mewn sioc am yr hyn sydd wedi digwydd i Ben a Catherine.

"Rydym yn gwerthfarogi cefnogaeth ein teulu a ffrindiau ac rydym yn gofyn i'r wasg barchu ein teimladau a'n preifatrwydd yn yr amser anodd yma."

Roedd Mrs Mullany yn gweithio yn uned paediatreg Ysbyty Singleton, Abertawe.

Mewn sioc

Dywedodd Paul Williams, prif weithredwr Ymddiriedolaeth Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, fod staff wedi synnu o glywed y newyddion trasig.

"Roedd hi'n feddyg poblogaidd a thalentog gyda gyrraf dda o'i blaen."

"Mae ein cydymdeimlad gyda'i theulu ac rydym yn gweddo y bydd ei gwr yn gwella."

Dywedodd Mike Cosgrove, ymgynghorydd Paediatreg, ei bod yn anodd credu'r newyddion.

"Rydym i gyd mewn sioc. Roedd hi fod i ddychwelyd o'i mis mel heddiw, ond yn hytrach de ni'n clywed y newyddion trasig yma.

"Does neb yn gallu credu fod hyn wedi digwydd."

Yn Antigua mae swyddogion yr heddlu wedi bod chwilio drwy'r llwyni dwys o gwmpas ganolfan wyliau am unrhyw dystiolaeth.

Roedd ymwelwyr mewn bwthyn cyfagos wedi clywed yr ergyd.

Cyflwr difrifol

Dywedodd y Gweinidog Twristiaeth a Hedfan Sifil Antigua, Y Gwir Anrhydeddus Harold Lovell bod y saethu wedi digwydd tua 4.40am amser lleol ddydd Sul.

"Mae ein meddyliau a chydymdeimlad gyda'r teuluoedd ar yr amser anodd yma.

"Mae gennyf bob hyder yn Heddlu Antigua a Barbuda sydd yn cynnal ymchwiliad trylwyr.

"Mae'r digwyddiad yma wedi synnu ein cymuned ac rydym eisiau rhoi sicrwydd i ymwelwyr bod Antigua a Barbuda yn ddiogel," meddai Mr Lovell.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor: "Gallwn gadarnhau bod cwpwl o Brydain wedi cael eu saethu yn Antigua ddoe.

"Gallwn gadarnhau bod un o'r Prydeinwyr wedi marw a bod y llall mewn cyflwr difrifol.

"Mae teuluoedd y ddau wedi cael eu hysbysu."

Fe briododd y cwpl ar Orffennaf 12.

Fe gyrhaeddodd y ddau Antigua ar Orffennaf 14 am fis mel o bythefnos




Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^