Dywed ei rhieni eu bod wedi colli "seren ddisglair".
|
Dywed Cyngor Sir fod y canllawiau wedi cael eu dilyn mewn eiddo lle gwympodd wal gan ladd merch dair oed.
Dywed yr heddlu i'r wal gwympo ar Meg Burgess yn Allt Melyd, ger Prestatyn, Sir Ddinbych, ddydd Sadwrn.
Mae'r heddlu a swyddogion y Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn cynnal ymchwiliad.
Yn ôl Cyngor Sir Ddinbych doedd dim angen sicrhau rheoliadau adeiladu ar gyfer y math o wal dan sylw.
Roedd y wal yn un dros dro er mwyn dal pridd.
Mae rheoliadau adeiladu yn gosod y safon sydd ei angen ar gyfer adeiladu - gan gynnwys cynllunio, y gwaith adeiladu a'r deunydd crai sydd i'w ddefnyddio.
Yn ôl llefarydd ar ran y Cyngor, roedd Alan Jones, perchennog yr eiddo, wedi cynnal trafodaethau anffurfiol gyda swyddog cynllunio.
Dywed y llefarydd fod y swyddog wedi dweud wrth Mr Jones i geisio am ganiatâd cynllunio ar gyfer y wal.
Ni wnaed hynny, meddai'r cyngor.
Cwest
Yn ôl y llefarydd byddai caniatâd cynllunio wedi ymwneud mwy gydag edrychiad y wal yn hytrach na'i chryfder.
Ei dealltwriaeth ni, meddai'r llefarydd, yw nad oes angen rheoliadau adeiladu ar gyfer wal o'r math yma.
Dywedodd Mr Jones wrth y BBC nad oedd yn gallu ateb unrhyw gwestiynau ar y mater.
"Rwyf wedi derbyn cyngor cyfreithiol i beidio â gwneud unrhyw sylw ar yn o bryd."
Mae canlyniadau archwiliad post mortem yn dangos i Meg Burgess farw o anafiadau i'w brest a'i abdomen.
Mae cwest wedi ei hagor a'i ohirio.
Dywed yr heddlu iddynt dderbyn galwad i Ffordd Penrhwylfa am 11.42am ddydd Sadwrn.
'Seren ddisglair'
Aed â'r ferch i Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan lle cafwyd cadarnhad ei bod wedi marw.
Credir bod y ferch yn cerdded heibio'r safle, sy'n agos i'w chartref, gyda'i mam pan syrthiodd rhan o'r wal.
Dyw'r heddlu ddim yn trin y farwolaeth fel un amheus.
Teyrngedau wrth safle'r ddamwain
|
Mae teyrngedau, blodau, teganau a llun wedi eu gadael wrth safle'r ddamwain.
Mewn datganiad, dywedodd rhieni Meg, Pete a Lindsay a'i brawd iau Wilson: "Rydym wedi cael ein harswydo gan y digwyddiad trasig hwn sydd wedi effeithio ar gynifer o fywydau am byth.
"Rydym wedi cael ein hysgwyd gan y lefel o gefnogaeth a chydymdeimlad sydd wedi eu cynnig gan ffrindiau, perthnasau a chymdogion.
"Roedd Meg yn seren ddisglair a bydd colled enfawr ar ei hôl".
Ychwanegodd ei mam Lindsay: "Roedd gan Meg y ddawn arbennig o wybod sut yr oedd eraill yn teimlo.
"Rydym yn teimlo ei bod yn rhy bur i aros gyda ni.
"Roedd hi'n gwybod ac wedi dweud y byddai'n marw.
"Rydym yn ddiolchgar ein bod wedi ei chael hi am y tair blynedd".