BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sul, 27 Gorffennaf 2008, 08:35 GMT 09:35 UK
Wal: Merch 3 oed yn cael ei lladd

Cafodd teyrngedau eu gosod ger y safle
Cafodd blodau, teyrngedau a llun eu gosod ger y safle
Mae'r heddlu a swyddogion y Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn ymchwilio ar ol i ferch dair oed farw wedi i wal ddymchwel ar ei phen.

Dywed yr heddlu iddynt dderbyn galwad i Ffordd Penrhwylfa, Prestatyn, sir Ddinbych am 11.42am ddydd Sadwrn.

Aed a Meg Burgess i Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan lle cafwyd cadarnhad ei fod wedi marw.

Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal er mwyn darganfod sut i'r wal ddymchwel.

Deellir fod y ferch yn cerdded heibio'r safle, sy'n agos i'w chartref, gyda'i mam pan syrthiodd rhan o'r wal.

Mae'n debyg fod y wal yn un gymharol newydd.

Mewn datganiad disgrifiodd ei mam hi fel "y ferch fwyaf perffaith yn y byd."

Roedd teyrngedau, blodau, teganau a llun wedi eu gadael wrth safle'r ddamwain.

Dyw'r heddlu ddim yn trin y digwyddiad fel un amheus.




Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^