Mair Penri sydd wedi derbyn medal Syr T H Parry-Williams er clod eleni
|
Un o Sir Drefaldwyn sy'n byw yn Y Parc ger Y Bala ydi enillydd Medal Syr T H Parry-Williams eleni.
Derbyniodd Mair, sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig i fyd y Pethe, y fedal mewn seremoni ddydd Mawrth.
Mae'r fedal yn cael ei rhoi bob blwyddyn ac mae Mair wedi gwneud cyfraniad oes i fyd yr Eisteddfodau, byd y ddrama, bywyd cymdeithasol a chrefyddol ei hardal a thu hwnt.
Wedi ei geni ym Mhenygarnedd, rhwng Penybontfawr a Llanfyllin ym Mhowys, bu yn y Coleg Normal ym Mangor cyn cychwyn gyrfa fel athrawes.
Hi oedd Llywydd Cenedlaethol Merched y Wawr yn 1990-1992.
Byd llefaru a drama ydi ei byd hi ac ym myd y ddrama y disgleiriodd fel actores, cynhyrchydd a sgriptiwr.
Deialog a drama
Fe enillodd wobr y Cyflwyniad Digri dair gwaith yn olynol yn yr Eisteddfod Genedlaethol rhwng 2005 a 2007.
"Fe wnes i ddechrau cystadlu yn Wrecsam yn 1977 a chael ail a thrydydd am flynyddoedd," meddai.
"Fe wnes i ail gychwyn yn Y Faenol a wedyn cael yr 'hatrick'."
Er na fydd yn cystadlu yn y gystadleuaeth honno eleni mi fydd hi a Gwyneth Morus Jones yn cymryd rhan yn y ddeialog a'r ddwy a g¿r Mair, Penri Jones, yn cystadlu gyda drama.
"Allwn i ddim gwneud dim heb Penri'r gwr," meddai. "Fo sy'n gyfrifol am y set, y golau, y sain ac ati."
Dywedodd Mair ei bod hi'n "lodes dawel" yn Ysgol Llanfyllin ond ei bod wedi cael anogaeth athrawon i gymryd rhan mewn gweithgareddau.
Cyfle gwahanol
"Roedd Penybontfawr yn ardal Gymraeg, roedd aelwyd yr Urdd ac roedden ni ynghlwm wrth bopeth Cymraeg, y Steddfod a'r capel," meddai.
"Roedd arian yn ddigon prin ond galla i ddweud yn onest na wnes i golli allan ar ddim byd o werth a fy mod wedi cael magwraeth hynod o dda."
Eisiau bod yn athrawes oedd Mair erioed ond o edrych yn ôl efallai y byddai wedi mwynhau bywyd fel actores hefyd.
"Dwi wedi cael mwyniant o fyd y ddrama dros y blynyddoedd," meddai.
"Ond doedd 'na ddim cyfleon fel sydd heddiw yn y 1960au."
Dywedodd ei bod hi wedi pregethu ers 47 mlynedd. "Mae fy nghrefydd yn bwysig iawn i mi ac mae 'na ryw ddwy ochr i mi," meddai.
"Mae pobl yn meddwl amdana i fel rhywun digri, ond mae 'na ddwyster mawr, llawer mwy na ma' pobl yn ei sylweddoli.
"Ac mae fy Nuw yn bwysig iawn i mi," ychwanegodd.
Dywedodd bod ei gwr Penri yn "ardderchog".
"Rhaid rhoi clod iddo, dydi o erioed wedi cwyno mod i 'ddim adre ddydd Sul yma eto' .
"Dydi o erioed wedi cwyno ac rydym wedi bod yn briod ers 40 mlynedd eleni."
Ar hyn o bryd mae hi'n brysur yn paratoi ar gyfer ymweliad y Brifwyl â Meirion a'r Cyffiniau y flwyddyn nesaf ac yn annog pawb i fynd i'r Bala ar gyfer y Brifwyl.