Fe fydd Cymry yn heidio i Gaerdydd am yr wythnos
|
Fe fydd seremoni agoriadol Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a'r cylch yn cael ei chynnal nos Wener.
Bydd cyngerdd arbennig wedyn yn y Pafiliwn cyn i'r gweithgareddau ddechrau yn swyddogol ddydd Sadwrn.
Fe fydd yr Ŵyl ar Gaeau Pontcanna yng nghanol Caerdydd am yr wythnos.
Bydd cyngerdd Tri10 nos Wener yn dathlu addysg Gymraeg yn y brifddinas a phenblwydd dwy ysgol uwchradd.
Mae 'na 30 mlynedd ers i Ysgol Gyfun Glantaf agor a 10 mlynedd ers i Ysgol Gyfun Plasmawr gael ei sefydlu.
Ymhlith y rhai fydd yn cymryd rhan y bydd y cyflwynydd radio Huw Stephens, y cerddor Paul Carey Jones a'r band Hanner Pei.
Enwau cyfarwydd
Fe fydd Côr Unedig Ysgol Glantaf a chyn-ddisgyblion enwog Ysgol Plasmawr a rhai o ysgolion cynradd Cymraeg y ddinas yn cymryd rhan.
Fe fydd 350 o leisiau yn y côr sydd hefyd yn cynnwys athrawon a rhieni.
Artistiaid eraill fydd yn cymryd rhan yw Matthew Rhys, Gethin Jones, Daniel a Mathew Glyn, Jeremy Huw Williams, Anthony Stuart Lloyd, Branwen Gwyn, Rhodri Llywelyn, Sara Gibson, Eleri Morgan, Dafydd James, Gareth Bonello, Lowri Watson, Rhidian Marc, Eiri Thomas, Alys Reed a Marged Jones.
Mae Ysgol Gyfun Glantaf yn 30 oed eleni
|
Fydd un o gyn-ddisgyblion enwoca Glantaf, yr actor Ioan Gruffudd, ddim yn bresennol.
Ond mae o wedi anfon neges o gefnogaeth ar ffurf fideo o'r America.
"Rwy'n siwr y bydd hi'n noson lwyddiannus, yn enwedig gyda'r ystod o dalent sydd ymhlith y myfyrwyr presennol a'r cyn-ddisgyblion enwog," meddai Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts.
Ar gychwyn yr wythnos mae Cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod, Huw Llywelyn Davies, wedi canmol ymdreichion trigolion y ddinas i godi arian.
Mwy na'r disgwyl
Mae'r gronfa leol wedi codi mwy na'r disgwyl cyn i'r Eisteddfod gychwyn, sy'n hwb aruthrol meddai.
Roedd 'na nôd o £286,000 ond ym mis Mehefin dywedodd Mr Davies bod y gronfa wedi cyrraedd £304,890, 7% yn fwy na'r disgwyl.
"Mae ymdrechion y trigolion lleol wedi bod yn ganmoladwy iawn," meddai.
"Mae nifer o ardaloedd y tu allan i ddalgylch yr Eisteddfod hefyd wedi cyfrannu.
"Mae eisiau i bawb dyrru i Gaerdydd er mwyn gwneud hon yn chwip o Eisteddfod ac i brofi bod y brifddinas yn medru cynnal ein gŵyl genedlaethol," meddai.