Ymddiswyddodd Mr Thomas nos Wener
|
Ar ôl ymddiswyddiad Rhodri Glyn Thomas mae yna ddyfalu pwy fydd aelod newydd Plaid Cymru yng nghabinet y llywodraeth glymblaid.
Roedd gan Blaid Cymru dri aelod yn y cabinet cyn penderfyniad Mr Thomas.
Ymddiswyddodd y Gweinidog Treftadaeth ddydd Gwener ar ôl adroddiadau ei fod wedi cerdded i mewn i dafarn a sigâr wedi ei thanio, yn groes i'r gwaharddiad ar smygu.
Fe gynigiodd ei ymddiswyddiad i'r Prif Weinidog Rhodri Morgan ac Ieuan Wyn Jones, y Dirprwy Brif Weinidog ac Arweinydd Plaid Cymru.
Yn ôl Vaughan Roderick, gohebydd materion Cymreig y BBC, un o'r ffefrynnau i olynu Mr Thomas yw Alun Ffred Jones, AC Caernarfon, sy â chefndir yn y byd darlledu, sy'n rhan o bortffolio'r Gweinidog Treftadaeth.
Ar hyn o bryd mae AC Caernarfon ar wyliau yn yr Eidal.
Cyhoeddusrwydd
Fe gafodd ymddiswyddiad Mr Thomas, AC Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, ei gadarnhau tua 7.45 pm nos Wener.
Yn ystod y dydd roedd adroddiadau bod staff tafarn yng Nghaerdydd wedi ei geryddu ar ôl iddo gerdded yno gyda sigâr wedi ei thanio nos Fercher.
Yn ei lythyr i'r Prif Weinidog a'r Dirprwy Brif Weinidog dywedodd: "Yn wyneb y cyhoeddusrwydd a fu yn ystod yr wythnosau diwethaf teimlaf fod fy sefyllfa yn y Llywodraeth yn anghynaladwy.
"Byddai sylw arall yn sicr o ddilyn. Bu'n fraint i fod yn rhan o'r llywodraeth am y cyfnod cyffrous iawn hwn."
Tafarn Eli Jenkins ym Mae Caerdydd
|
Roedd i fod yn bresennol yn agoriad swyddogol Oriel Kyffin Williams ar Ynys Môn nos Wener.
Cafwyd gwybod na fyddai'n bresennol ac yn ei le roedd Elin Jones y Gweinidog dros Faterion Gwledig.
Yn fuan wedyn daeth cadarnhad ei fod wedi ymddiswyddo o'r llywodraeth.
Wrth dderbyn yr ymddiswyddiad dywedodd Mr Morgan ei fod yn diolch i Mr Thomas am ei waith dros y flwyddyn ddiwethaf.
"Yn benodol, hoffwn gydnabod eich gwaith caled wrth fwrw ymlaen gyda'r gwaith o ddatblygu'r Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ar yr iaith Gymraeg ac wrth ddelio gyda Chanolfan Mileniwm Cymru," meddai Mr Morgan yn ei lythyr.
Yn ei lythyr at Mr Thomas, fe ddywedodd Ieuan Wyn Jones ei fod yn diolch am ei gyfraniad, yn arbennig ym maes yr iaith.
Dywedodd Nick Bourne, arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, ei fod yn synnu fod y gweinidog wedi ymddiswyddo.
"Wnes i ddim gofyn am ei ymddiswyddiad, rwy'n synnu braidd ei fod wedi gwneud.
"Rwy'n credu ei fod yn debyg fod pwysau mewnol o'r llywodraeth yn lle pwysau o'r gwrthbleidiau neu'r wasg."