Cafodd ei ethol i'r Cynulliad yn 1999
|
Roedd Rhodri Glyn Thomas yn rhan o'r don gyntaf o aelodau i gael eu hethol i'r Cynulliad yn 1999.
Fe gipiodd sedd Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr gyda mwyafrif o 6,980 dros yr ymgeisydd Llafur.
Yn etholiad 2007, fe lwyddodd i gynyddu'r mwyafrif i dros 8,000 - un o'r seddi mwyaf diogel yng Nghymru.
Cafodd ei benodi'n Weinidog Treftadaeth yng Ngorffennaf 2007 ar ôl ffurfio llywodraeth glymblaid rhwng Llafur a Phlaid Cymru.
Yn ystod ei gyfnod yn y swydd fe roddodd arian ychwanegol i Ganolfan y Mileniwm - a gosod seiliau i'r Theatr Genedlaethol yn yr iaith Saesneg.
Un o'i benderfyniadau mwyaf dadleuol oedd neilltuo £600,000 dros dair blynedd i ddatblygu'r wasg Gymraeg, gan gynnwys sefydlu papur dyddiol Cymraeg.
Yn ôl beirniaid roedd yr arian yn annigonol.
Roedd Mr Thomas yn un o dri aelod Plaid Cymru yn y cabinet.
Yn 55 oed fe'i ganwyd yn Wrecsam
Cafodd ei addysg yn Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam, prifysgol Aberystwyth, a phrifysgol Bangor
Yn ogystal â bod yn wleidydd mae'n parhau yn weinidog gydag Undeb yr Annibynwyr.