BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 18 Gorffennaf 2008, 18:58 GMT 19:58 UK
Gweinidog yn ymddiswyddo

Rhodri Glyn Thomas
Mae Mr Thomas wedi ymddiswyddo fel Gweinidog Treftadaeth

Mae Rhodri Glyn Thomas wedi ymddiswyddo fel Gweinidog Treftadaeth yn Llywodraeth y Cynulliad.

Fe gyflwynodd lythyr o ymddiswyddiad i'r Prif Weinidog Rhodri Morgan ac Ieuan Wyn Jones, y Dirprwy Brif Weinidog ac arweinydd Plaid Cymru.

Daw ei ymddiswyddiad yn sgil adroddiadau ei fod wedi cerdded i mewn i dafarn a sigār wedi ei thanio, yn groes i'r gwaharddiad ar ysmygu.

Dyma gynnwys y llythyr: "Yng ngwyneb y cyhoeddusrwydd a fu yn fy nilyn dros yr wythnosau diwethaf teimlaf fod fy sefyllfa yn y Llywodraeth yn anghynaladwy.

"Byddai sylw arall yn sicr o ddilyn. Bu'n fraint i fod yn rhan o'r Llywodraeth am y cyfnod hynod o gyffroes yma."

Mae'r Prif Weinidog wedi ysgrifennu llythyr at Mr Thomas, 55 oed, yn derbyn ei ymddiswyddiad.

Yn ei lythyr mae'n diolch i'r cyn weinidog am ei wasanaeth.

"Yn benodol, hoffwn gydnabod eich gwaith caled wrth fwrw ymlaen a'r gwaith o ddatblygu'r Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ar yr iaith Gymraeg ac wrth ddelio gyda Chanolfan Mileniwm Cymru," meddai llythyr Mr Morgan.

"Hoffwn ddymuno'n dda i chi yn bersonol a hefyd yn eich gyrfa yn y dyfodol."

Roedd adroddiadau fod Mr Thomas wedi cerdded gyda'i sigār i dafarn yr Eli Jenkins ym Mae Caerdydd.

Honnodd aelodau'r cyhoedd iddyn nhw weld staff tafarn yn ei geryddu.

Honnwyd fod Mr Thomas wedyn wedi gadael yr adeilad.

Dau ddewis

Dywedodd Vaughan Roderick, Golygydd Materion Cymreig BBC Cymru, roedd yna ddau ddewis yn wynebu Mr Thomas, ymddiswyddo neu gael ei ddiswyddo.

"Mae hon yn goron ar gyfres o gamsyniadau sydd o bosib wedi darbwyllo arweinydd Plaid Cymru fod rhaid i Mr Thomas fynd."

Yn gynharach y mis fe wnaeth Mr Thomas ymddiheuro wrth iddo wneud camgymeriad wrth gyhoeddi enillydd Llyfr (Saesneg) y Flwyddyn mewn seremoni yng Nghaerdydd.

Tom Bullough gafodd ei alw i'r llwyfan ond, mewn gwirionedd, Dannie Abse a The Presence, llyfr am golli ei wraig, enillodd y tlws.

Roedd Mr Thoams yn un o dri aelod Plaid Cymru yng nghabinet Llywodraeth y Glymblaid.

Alun Ffred Jones, AC Caernarfon, yw un o'r ffefrynnau i olynu Mr Thomas.



HEFYD
Rhodri Glyn Thomas
18 Gorff 08 |  Newyddion
Llyfr y Flwyddyn: Gwobr i Gareth
02 Gorff 08 |  Newyddion


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^