BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 15 Gorffennaf 2008, 17:12 GMT 18:12 UK
Enw Glyndwr ar brifysgol newydd

Safle Newi
Cafodd statws newydd Newi ei ddisgrifio fel 'carreg filltir' i'r dref

Mae coleg yn Wrecsam wedi cael statws prifysgol ac fe fydd yn cael ei alw'n Brifysgol Glyndŵr.

Dywedodd prifathro Athrofa Gogledd Ddwyrain Cymru (Newi) y bydd gan y brifysgol newydd "falchder" o gael ei henwi ar l Owain Glyndŵr.

Mae gan y tywysog o'r 15fed Ganrif gysylltiadau gyda'r ardal.

Dyma fydd 10fed brifysgol Cymru.

Roedd disgwyl i'r enw gael ei gyhoeddi'n swyddogol ddydd Gwener yn ystod ymweliad gan Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan.

Ffigwr hanesyddol

Roedd cyfeiraid at yr enw newydd yn ystod cyfarfod o Bwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig yn Llundain, lle'r oedd newyddiadurwyr yn bresennol.

"Gallwn fod balchder yn ein cysylltiad ag Owain Glyndŵr," meddai'r prifathro, Yr Athro Mike Scott yn ddiweddarach.

"Dwi'n credu mai fo ydi'r person hanesyddol mwya pwysig i nifer fawr o bobl, ac yn ffigwr diwylliannol."

Fe fydd Yr Athro Scott yn parhau i fod yn brifathro ac yn cael ei wneud yn is-ganghellor hefyd.

Yr Arglwydd Barry Jones, cyn AS Alun a Glannau Dyfrdwy, fydd y canghellor.

Dywedodd bod y newyddion yn gydnabyddiaeth am y 120 mlynedd o gyflwyno addysg uwch arbennig yn Wrecsam.

"Rwy'n falch o fod yn Ganghellor Prifysgol Glyndŵr," ychwanegodd.

Credir bod Glyndŵr wedi cael ei eni yng Nglyndyfrdwy ger Corwen a'i fagu yn ardal Hanmer o Wrecsam lle y priododd Margaret Hanmer.

Cafodd yr athrofa ei sefydlu yn 1975 ar l uno gyda nifer o golegau eraill ond mae modd olrhain yr hanes yn l i 1887.

Mae 'na tua 6,000 o fyfyrwyr yno ac fe ddaeth yn rhan o Brifysgol Cymru yn 2004.

Mae eisoes yn dyfarnu graddau Prifysgol Cymru ac ym mis Ebrill cafodd ei gymeradwyo am yr hawl i allu dyfarnu graddau.

Fe wnaeth y Cyfrin Gyngor - sy'n cymeradwyo statws prifysgol - gadarnhau bod Newi wedi cael pwerau i ddyfarnu graddau a'r hawl i newid enw.



HEFYD
Safle Glyndwr: Cynllun 2.7m
11 Hyd 07 |  Newyddion
Dadorchuddio cerflun Glyndwr
13 Medi 07 |  Newyddion
Dathlu Diwrnod Glyndwr
16 Medi 06 |  Newyddion
Datblygiad 8m i athrofa
14 Rhag 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^