BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 14 Gorffennaf 2008, 18:27 GMT 19:27 UK
Cyn-Archesgob Cymru'n marw
George Noakes
Yn 'fugail gwych ... yn bregethwr dawnus'

Bu farw'r Gwir Barchedig George Noakes, cyn-Archesgob Cymru, yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin ddydd Llun.

Roedd yn 83 oed ac yn Archesgob Cymru rhwng 1987 a 1991.

Mae'n cael ei oroesi gan ei wraig Jean.

Yn frodor o Fwlchllan, Sir Aberteifi, gwasanaethodd y rhan fwyaf o'i offeiriadaeth yng ngorllewin Cymru a bu'n Esgob Tŷ Ddewi am naw mlynedd cyn cael ei benodi'n Archesgob.

Dywedodd yr Archesgob presennol, y Dr Barry Morgan: "Roedd yr Esgob Noakes yn fugail gwych yn Neoniaeth Tŷ Ddewi ac roedd yn bregethwr dawnus.

'Cymysgu'n dda'

"Roedd â'i draed ar y ddaear a'i ddull agos-atoch a'i anwyldeb yn golygu y gallai gyffwrdd â phobl ar draws cymdeithas ... roedd yn cymysgu'n dda."

Ac roedd llawer yn gwerthfarogi natur garedig a hynaws ei lywyddiaeth o Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru.

Enillodd barch ac edmygedd fel arweinydd.

Roedd yr Esgob Noakes yn siaradwr Cymraeg rhugl. Graddiodd o Brifysgol Cymru, Aberystwyth, a chafodd ei hyfforddi yn Neuadd Wycliffe, Rhydychen.

Dechreuodd ei offeiriadaeth yn 1950 yn Llambed fel curad cynorthwyol a bu yno tan 1956.

O 1956-59 roedd yn Ficer Eglwyswrw a Meline, yn Ficer Tregaron o 1959 tan 1967 ac yn Ficer Eglwys Dewi Sant yng Nghaerdydd o 1967 tan 1976.

Cysegru

Rhwng 1976 a 1980 bu'n rheithor Aberystwyth (Sant Mihangel), (Y Drindod Sanctaidd), (Y Santes Fair), (Santes Anne) ac yn Ganon Eglwys Gadeiriol Tŷ Ddewi o 1977 tan 1979.

O 1980 tan 1982 bu'n beriglor Llanychaearn (Sant Llwchaia gyda Llanddeiniol).

Rhwng 1979 a 1982 bu'n Archddiacon Aberteifi ac yn 1982 cafodd ei gysegru'n Esgob Tŷ Ddewi a'i benodi'n Archesgob Cymru yn 1987.

Fe ymddeolodd yn 1991.




Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^