Roedd ffermdy'r Lasynys Fawr yn gartref i'r llenor Ellis Wynne
|
Mae 14,000 o enwau caeau a 1,000 o enwau ffermydd ar wefan newydd gafodd ei lansio ddydd Iau.
Gwefan Adnabod Ardudwy gafodd ei lansio yn Theatr Harlech ac mae'n rhan o brosiect gafodd ei lansio flwyddyn yn ôl gan yr Arglwydd Elis-Thomas.
Bu nifer o weithdai poblogaidd fel un i ddehongli olion archeolegol lleol gydag awyrluniau, ail-greu'r tirlun canoloesol drwy ddefnyddio enwau caeau, cofnodi hanes llafar, a darllen dogfennau Lladin.
Dywedodd Dr Rhian Parry, arweinydd y prosiect ar ran Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirionnydd, fod 'na bryder fod enwau caeau Cymraeg wedi troi'n Saesneg.
"Ond mae'r di-Gymraeg yn yr ardal wedi dangos diddordeb mawr yn ein gwaith ni," meddai.
Wrth fynd i hen ffermdai mae'r criw wedi dyddio coed trawstiau.
'Yn wych'
Maen nhw wedi annerch cymdeithasau ac mae ysgolion lleol yn rhan o'r prosiect.
"Yn gyffredinol yn yr ardal, mae'r ymateb wedi bod yn wych," meddai Dr Parry.
"Tu hwnt i'r ardal mae llawer o bobl wedi cysylltu â ni am ein gwaith ni - dwi wedi bod yng Nghaeredin a Dulyn i siarad am y prosiect, er enghraifft.
"Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous, wedi ei seilio ar ymchwil.
"Nod y cyfan yw dod i adnabod Ardudwy'n well drwy hanes enwau caeau a ffermydd yr ardal.
"Mae'r enwau hynafol yn mynd ar goll yn ddyddiol a phobl yn newid enwau heb ddeall nag ystyried eu gwerth diwylliannol a hanesyddol."
Dywedodd Gerallt Hughes, cadeirydd y gymdeithas, fod "cydweithrediad brwdfrydig ffermwyr Ardudwy wedi bod yn hanfodol i lwyddiant y prosiect, gan mai ganddyn nhw mae'r wybodaeth fanwl am hanes a diwylliant eu cymdogaeth a'u bro."
Mae grant o £50,000 ar gael oddi wrth Gronfa Dreftadaeth y Loteri ac fe fydd y cynllun yn parhau hyd haf 2009.
p>Ac mae pedwar corff arall - Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cyngor Gwynedd ac Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd, yn cefnogi'r cynllun.