Cyflwyno'r Goron wrth i'r brifysgol nodi penblwydd yn 125 oed
|
Mae Coron Eisteddfod Caerdydd a'r Cylch 2008 yn cael ei chyflwyno'n swyddogol i'r Brifwyl ddydd Mercher.
Prifysgol Caerdydd sy'n cyflwyno'r Goron eleni gan ei bod yn dathlu ei phenblwydd yn 125 mlwydd oed.
Karen Williams, gemydd a gof arian, sydd wedi creu'r Goron a phensaernïaeth a hanes y brifysgol oedd yr ysbrydoliaeth.
Mae'r Goron yn wobr am gasgliad o gerddi rhydd hyd at 300 llinell ar y testun Stryd Pleser.
'Cyffrous'
Dywedodd Karen, sy'n byw yn Llandygái ger Bangor, ei bod hi wedi dylunio a chreu pedair Coron i'r Eisteddfod Genedlaethol.
"Rwy'n falch iawn i gael fy newis unwaith yn fwy ...
"Mae cael y cyfle i symboleiddio un o adeiladau prifysgol mwya trawiadol Prydain yn gwneud hwn yn un o'r prosiectau mwyaf cyffrous dwi i wedi gweithio arno hyd yma."
Mae'r rhan fwyaf o'r elfennau pensaernïol wedi'u creu allan o arian
|
Rhwng y bwâu a'r colofnau ar y Goron, mae planhigion wedi eu seilio ar arfbais y brifysgol.
Mae'r rhan fwyaf o'r elfennau wedi eu creu o arian a'r crommenau wedi eu creu o rwd copr.
'Ysbrydoliaeth'
Dywedodd yr Athro Ken Woodhouse, Dirprwy Is-Ganghellor y brifysgol: "Un o brif ddigwyddiadau ein penblwydd yw cyflwyno'r Goron i'r Eisteddfod.
"Mae seiliau'r sefydliad gafodd eu gosod 125 mlynedd yn ôl yn parhau i fod yn ysbrydoliaeth i nifer o bobl sy'n dod i gysylltiad â'r sefydliad ac rydyn ni'n falch iawn i gyfrannu ymhellach i fywyd diwylliannol Cymru."
Fe fydd Seremoni'r Coroni ym mhafiliwn yr Eisteddfod ddydd Llun, Awst 4, am 4pm o dan ofal Gorsedd y Beirdd.
Ac fe fydd Prifysgol Caerdydd a Techniquest yn cynnal arddangosfa rhyngweithiol yn y Pafiliwn Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn ystod yr wythnos.