BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 5 Gorffennaf 2008, 16:50 GMT 17:50 UK
Tân yn difrodi hen gapel

Capel Tabernacl, Aberystwyth
Cafodd Capel Tabernacl ei ddifrodi gan y tân

Bu'n rhaid i nifer o bobl adael eu cartrefi yng nghanol Aberystwyth nos Wener ar ôl tân mewn adeilad gwag yn y dre.

Mae'r tân yn hen Gapel Tabernacl ar Stryd Dan Dre bellach wedi ei ddiffodd.

Bu diffoddwyr tân yn gweithio drwy'r nos i daclo'r fflamau.

Cafodd tua 12 o drigolion eu symud o'u cartrefi oedd yn cefnu ar yr hen gapel fel mater o ddiogelwch.

Mae'r adeilad Fictorianaidd wedi bod yn wag am dros bum mlynedd.

Dywedodd yr heddlu bod yr adeilad wedi cael ei ddifrodi gan y tân ac mae'n parhau i fod yn ansefydlog.

Strydoedd ar gau

Cychwynnodd y tân tua 11.55pm a bu criw chwe injan dân yn taclo'r fflamau.

Yn ôl yr heddlu bu'n rhaid symud pobl o wyth t? yn Stryd Powell.

Oherwydd nad ydi'r hen gapel yn ddigon diogel dydi'r bobl sy'n byw drws nesaf i'r capel ddim wedi cael dychwelyd i'w cartrefi.

Mae Stryd Dan Dre, Stryd Powell a Stryd y Bont wedi cau ac mae disgwyl iddyn nhw fod ar gau am rai oriau eto.

Capel Tabernacl cyn y tân
Y capel fel yr oedd cyn y tân

"Roedd 'na fwg a golau glas ym mhob man," meddai Geoffrey Ralphs sy'n byw ger y capel ond na chafodd ei symud.

"Yn ffodus doedd dim rhaid i ni adael ein cartref ond bu'n rhaid i nifer yng nghefn y capel.

"Cafodd y ffordd ei chau yn fuan ar ôl i'r tân gychwyn."

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru bod rhai diffoddwyr yn parhau ar y safle.

Roedd y fflamau wedi cael eu rheoli erbyn 2.10am ddydd Sadwrn ac ers hynny mae'r diffoddwyr wedi bod yn diogelu'r adeilad.

Diolchodd y cynghorydd tref, Trevor Shaftoe, i'r gwasanaethau brys am y modd y gwnaethon nhw ganfod llety i'r trigolion gafodd eu symud.

"Cafodd tri lety mewn gwesty gwely a brecwast ac roedd y gweddill wedi aros gyda ffrindiau neu berthnasau," meddai.

"Mae'n drist iawn be sydd wedi digwydd i'r adeilad, fe fydd yn golled i'r dref, ond dwi'n cael ar ddeall bod y waliau yn sefydlog."

Dywedodd Rhys Llwyd o Adran Ddiwinyddiaeth, Bangor: "Wrth gwrs, i anghydffurfwyr nid yw'r adeilad yn bwysig, pobl yw'r eglwys ac nid adeilad.

"Fodd bynnag roedd i Gapel y Tabernacl bwysigrwydd neilltuol yn hanes y ffydd yng Nghymru oherwydd ar y safle yn 1823 y lluniwyd a mabwysiadwyd Cyffes Ffydd enwog y Methodistiaid Calfinaidd.

"Mae'r gyffes yn un o'r gweithiau gorau sy'n bodoli yn holl wledydd cred ac yn dangos cymaint o rin oedd ar Gristnogaeth Cymru ar y pryd, cymaint oedd llaw Duw arnom fel cenedl."

Fe wnaeth yr adeilad, sy'n dyddio'n ôl i 1880, gau ym mis Tachwedd 2002 oherwydd costau cynnal a chadw'r adeilad oedd â chynulleidfa o 70.

Dyma'r pedwerydd adeilad ar y safle oherwydd bod maint y gynulleidfa wedi ehangu oherwydd y Diwygiad

Methodistaidd.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^